Corgi
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gi corlanu, neu gi sodli, llwynogaidd yr olwg yw'r corgi sy'n frodorol o Gymru.[1] Mae'r enw'n 'corgi' yn air cyfansawdd, sy'n cynnwys dwy elfen: 'cor' am bach, fel yn 'corrach', a 'ci', ac un o'r ychydig eiriau Cymraeg sydd wedi cael eu mabwysiadu gan y Saesneg. Ceir dau frid neu fath o gorgwn Cymreig, sef corgi Sir Benfro (y mwyaf poblogaidd) a chorgi Sir Aberteifi (a elwir hefyd yn Gorgi Dyfed ac yn Gorgi Ceredigion. Ci byrgoes ydyw gyda chot felen gyda gwyn dan yr ên yn aml. Ci gyrru gwartheg oedd y corgi - yn ddigon bach a sydyn i sodli'r gwartheg (sef brathu'r sodlau) - er mwyn gyrru'r gwartheg, merlod a chobiau neu ddefaid gan fwyaf. Maent yn llwyddiannus iawn mewn sioeau ond cŵn anwes yw corgwn gan mwyaf heddiw.
Yn ôl traddodiad, roedd yn well gan y Tylwyth Teg farchogaeth y corgi nag unrhyw anifail arall.[2] Cyfeiriodd y nofel Saesneg Korgi (Top Shelf Productions) at y cysylltiad hwn gan fodau o deulu'r Tylwyth Teg, o'r enw "Mollies", yn cyd-fyw gyda'u cyfeillion 'Korgi' a edrychai'n ddigon tebyg i Gorgwn Sir Benfro.[3]
Weithiau defnyddiwyd y gair 'corgi' yn ffigyrol am berson neu blentyn sarrug ac afrywiog (yng Ngogledd a rhannau o Dde Cymru) a chyfrwys (yng Ngheredigion).
Ceir y cyfeiriad cyntaf at y corgi yn Llawysgrifau Hengwrt a sgwennwyd yn y 14g (HMSS ii. 296): ef awelei lawnslot drwy y hun. bot corrgi yn y gyfarth. Canodd y bardd Guto'r Glyn yn y 15g hefyd (GGl 6): Na helied yn hoywalawnt / gorgwn mân garw gwinau Mawnt.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Corgi Ceredigion yw un o fridiau hynaf gwledydd Prydain a gweithiodd yn ddi-dor am ganrifoedd yn gyrru gwartheg.[1][5] Credir i Gorgi Sir Benfro, fodd bynnag, gael ei fewnforio i Ynys Prydain gan y Fflemiaid oddeutu 920 neu 1100.[1] Ceir posibilrwydd arall, sef fod y corgi hwn wedi'i groes-fridio o ddau gi: y Vallhund Danaidd a'r Spitz a ddygwyd yma gan y Llychlynwyr.[5]
Yn 1925 yr ymddangosodd y corgi mewn sioe gŵn am y tro cyntaf, a'r rheiny wedi dod yn syth o'r fferm lle roeddent yn gweithio.[5] Ychydig o sylw a gawsant ar y cychwyn, ond cychwynwyd ei fagu i edrych yn ddel, a daeth yn boblogaidd dros nos. [6] Am rai blynyddoedd, un brid oedd Sir Benfro a Sir Aberteifi, a gan iddynt gael eu magu am ganrifoedd o fewn milltiroedd i'w gilydd ar fryniau, yn gwneud yr un gwaith. Maent felly'n ddigon tebyg i'w gilydd. Gwyddys iddynt groes-fridio rhywfaint.
Bridiau tebyg
[golygu | golygu cod]Vallhund - y corgi Swedaidd[7]
Niferoedd
[golygu | golygu cod]Bu cryn bryder ers y 2000au fod y nifer o gorgwn Cymreig yn prinhau a rhodwyd y brid hwn ar Restr Cŵn Prin Clwb Cennel Prydain. Yn 2013, dim ond 241 Corgi Cymreig oedd wedi'u cofrestru. I dynnu'r corgi o'r rhestr hon, mae'n rhaid cael dros 300.[8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Cunliffe, Juliette (2004). The Encyclopedia of Dog Breeds. Parragon Publishing. t. 237.
- ↑ Hausman, Gerald (1998). The Mythology of Dogs. Macmillan. tt. 275–277.
- ↑ "Man's Best Friend: Slade talks Korgi". Cyrchwyd 2009. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ corgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Welsh Corgis: Small Dogs With Big Dog Hearts". Cyrchwyd 2009. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Animal Planet Dog Breed Directory: Pembroke Corgi". Cyrchwyd 2009. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 52
- ↑ "Everybody Panic: Corgis Are On Their Way to Becoming Endangered". Time. 5 Tachwedd 2013.