Neidio i'r cynnwys

Coleg Penybont

Oddi ar Wicipedia
Coleg Penybont
Mathcoleg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1928 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen y Bont Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5°N 3.57°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Coleg Penybont (Saesneg: Bridgend College) yn goleg addysg bellach wedi'i leoli ym Mhen - y - bont ar Ogwr, ym Morgannwg. Fe'i sefydlu ym 1928 fel Sefydliad Mwyngloddio a Thechnegol Pen-y-bont ar Ogwr, [1] mae gan y coleg heddiw bedwar campws: y nhref Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Heol y Frenhines a Maesteg .

Ar hyn o bryd mae'r coleg yn cyflwyno darpariaeth ar gyfer dros 6,000 o fyfyrwyr ac yn cyflogi dros 700 o aelodau staff ar draws ei bedwar campws. Cafodd ei enwi yn Goleg AB y Flwyddyn y Times Educational Supplement yn 2019. [2] Mae'r Coleg yn aelod o rwydwaith y sector, ColegauCymru.

Campysau

[golygu | golygu cod]
Rhan o gampws Maesteg (2011)

Mae'r Coleg wedi ei rhannu ar bedwar gwahanol gampws, dau yn nhref Penybont ei hun, a dau mewn trefi cyfagos.

Gweithrediadau

[golygu | golygu cod]

Yn 2017, sefydlodd Coleg Pen-y-bont bartneriaeth ag Ysgol Gyfun Pencoed i greu Coleg Chweched Dosbarth Pen-y-bont. [3] Trwy'r bartneriaeth, derbyniodd 29.3% o fyfyrwyr radd A*- A tra sicrhaodd 83.8% ganlyniadau A*-C. Y radd a dderbyniwyd ar gyfer A* - E oedd 99.4%. 

Ym mis Ionawr 2019, datgelodd Coleg Pen-y-bont gynlluniau ar gyfer adeiladu Academi STEAM newydd ar Gampws Pencoed, a fydd yn agor ym mis Medi 2021. [4] Bydd yr academi yn adeilad newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau addysgu, dysgu a chymorth ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg. [4]

Ym mis Gorffennaf 2019, torrodd y coleg 34 o swyddi a chaeodd ei Academi Gelfyddydau Caerdydd oedd wedi gwneud colled oherwydd "heriau ariannol". [5]

Ym mis Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd y byddai ysgolion uwchradd Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw eu chweched dosbarth, yn hytrach nag agor un ganolfan chweched dosbarth ar gyfer y sir. Yn lle hynny, mae canolfan ragoriaeth yn cael ei hystyried ar Gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr. [6]

Cyrsiau

[golygu | golygu cod]

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig Diplomâu, is-ddiplomâu, Diplomâu estynedig, Tystysgrifau, Safon Uwch, Dyfarniadau, cymwysterau proffesiynol ac NVQs .  Mae'r coleg hefyd yn cynnig cyrsiau addysg uwch, gan gynnwys HNCs, HNDs, Graddau Sylfaen a Graddau a ddyfernir trwy Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, CMI a Pearson. 

Perfformiad

[golygu | golygu cod]
Lansiad adroddiad prentisiaethau yng Ngholeg Pen-y-bont gydag aelodau o Senedd Cymru, Alun Ffred Jones a Ken Skates (2012)

Mae'r coleg wedi'i ddilysu'n ddiweddar fel y Coleg Addysg Bellach sy'n Perfformio Gorau ar gyfer pob cymhwyster yng Nghymru gyfan. Daw’r wybodaeth o astudiaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi Coleg Penybont ar frig y tabl cynghrair ar gyfer pob cymhwyster, gyda chyfradd llwyddiant o 90.4%. 

Ym mis Ebrill 2018, pleidleisiwyd Coleg Pen-y-bont y Coleg AB Gorau yng Ngwobrau WhatUni Student Choice Awards, [7] yn ogystal â bod yn enillwyr balch Gwobr RSM am Arweinyddiaeth a Llywodraethu o Wobr Beacon Cymdeithas y Colegau yn 2017. [8]

Ym mis Medi 2018, lansiodd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr raglen interniaeth mewn partneriaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â sefydliadau cenedlaethol DFN Project SEARCH, Engage to Change ac Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite. Nod Interniaeth â Chymorth Prosiect SEARCH yw cyflwyno rhaglen amser llawn sy’n cefnogi carfan o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i gael blas ar gyflogaeth amser llawn. Mae'r rhaglen wedi'i lleoli o fewn adeilad cyflogwr cynnal ac mae interniaid yn ymgymryd â thri lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn. [9]

Yn 2018, enwyd Campws Heol y Frenhines Coleg Penybont yn Ddarparwr Hyfforddiant Prentisiaeth y flwyddyn ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Y Gymraeg a'r Coleg

[golygu | golygu cod]

Mae oddeutu 200 o fyfyrwyr y Coleg yn gallu siarad Cymraeg a rhai staff, ond Saesneg yw prif iaith cyfrwng dysgu y Coleg ond ceir ymrywiad yn unol gyda Safonau’r Gymraeg wyddfa Comisynydd y Gymraeg i roi mynediad cyfartal i wasanaethau a phrofiadau yng Ngholeg Penybont i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg. Cynhelir digwyddiadau ar draws y coleg yn amrywio o ddathlu achlysuron fel Diwrnod Shwmae Sumae, Dydd Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi i’r Clwb Brecwast a’r Clwb Cinio – cyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill a staff sy’n siarad Cymraeg, neu sy’n dysgu’r iaith. Mae hefyd gyfle i ennill cymwysterau ychwanegol yn y Gymraeg.[10]

Arweinyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Arweinir y coleg gan ei Bennaeth a’i Brif Weithredwr, Simon Pirotte, a’r Dirprwy Bennaeth Viv Buckley. [11] Yn 2018 enwyd Priote yn Gyfarwyddwr y Flwyddyn - Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector yng Ngwobrau Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Flwyddyn Sefydliad y Cyfarwyddwyr . [12] Enwyd Bucklry yn enillydd gwobr Arwain Cymru yn y Sector Cyhoeddus yn 2018. [13]

Cymrodorion Er Anrhydedd

[golygu | golygu cod]
Yr Athro Laura McAllister, enillwydd anrhydeddau'r Coleg yn 2013

Bob blwyddyn mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal ei wobrau Addysg Uwch ar Gampws Pencoed ac yn anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau i addysg, y gymuned ac i'r coleg trwy ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd. Mae Cymrodyr Er Anrhydedd yn cynnwys: [14]

Blwyddyn Enw
2019 David Evan Roberts CBE
2019 Claire Birkenshaw
2018 Neil Robinson OBE
2018 Madeleine Moon AS
2017 Charles Middleton
2017 Richard Parks
2016 Barbara Wilding CBE
2016 Janice Gregory
2015 Menna Richards OBE
2014 Helen Jenkins
2014 Nathan Stephens
2013 Laura McAllister
2013 Bill Goldsworthy
2012 Steve Dalton OBE
2012 Terry Coles
2012 Aled Davies
2011 Roger Burnell
2011 Dr John Graystone
2010 John Bevan
2010 Stan Peate
2009 Carwyn Jones AC
2008 Gareth Bray
2007 Godfrey Hurley

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Our History". www.southwales.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.
  2. "Bridgend College wins at Tes FE Awards 2019". Tes (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.
  3. "Sixth form shake-up as panel makes post-16 recommendations – Oggy Bloggy Ogwr" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.
  4. 4.0 4.1 Bradfield, Elizabeth (2019-01-23). "Bridgend College's new academy plans for Pencoed campus". walesonline. Cyrchwyd 2020-08-04.
  5. Wightwick, Abbie (2019-07-10). "Bridgend College sheds 34 jobs and shuts Cardiff operation". walesonline. Cyrchwyd 2020-08-04.
  6. "County's schools to keep their sixth forms". BBC News (yn Saesneg). 2020-07-22. Cyrchwyd 2020-08-04.
  7. "Best Universities 2018 | UK University Rankings by Whatuni". www.whatuni.com. Cyrchwyd 2020-08-04.
  8. "Shortlist for 2017-18 Beacon Awards announced". Association of Colleges. 2017-11-02. Cyrchwyd 2020-08-04.[dolen farw]
  9. "Project SEARCH Celebrates Double Graduation". ELITE Supported Employment (yn Saesneg). 2019-07-09. Cyrchwyd 2020-08-04.
  10. "Y Gymraeg". Gwefan Coleg Penybont. Cyrchwyd 23 Mai 2023.
  11. "College aims to support students and staff with their mental health and wellbeing". Glamorgan Gem Ltd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-04.[dolen farw]
  12. "National Director of the Year Awards UK Finals WINNERS 2018". Director of the Year 2018 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-03. Cyrchwyd 2020-08-04.
  13. "Leading Wales Awards 2018 Winners | The Leading Wales Awards" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-27. Cyrchwyd 2020-08-04.
  14. "Honorary Fellows » Bridgend College". Bridgend College (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 2020-08-04.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]