Cleveland (sir)
Math | cyn endid gweinyddol tiriogaethol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cleveland |
Gefeilldref/i | Cleveland |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.525°N 1.189°W |
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Cleveland.
Sir yn rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Cleveland. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o rannau o Riding Gogleddol Swydd Efrog a Swydd Durham ar bob ochr Afon Tees, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996.
Roedd gan y sir arwynebedd o 583 km² gyda poblogaeth o 565,935 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio ar Swydd Durham i'r gogledd ac i'r gorllewin, Gogledd Swydd Efrog i'r de, a Môr y Gogledd i'r dwyrain.
Rhennid y sir yn bedair ardal an-fetropolitan:
- Bwrdeistref Hartlepool
- Bwrdeistref Stockton-on-Tees
- Bwrdeistref Middlesbrough
- Bwrdeistref Langbaurgh (Bwrdeistref Langbaurgh-on-Tees ar ôl 1988)
Diddymwyd y sir ym 1996. Ailsefydlodd Afon Tees fel y ffin rhwng siroedd seremonïol Gogledd Swydd Efrog a Swydd Durham. Daeth y pedair ardal an-fetropolitan yn awdurdodau unedol. Daeth Bwrdeistref Hartlepool yn rhan o Swydd Durham; daeth Bwrdeistref Middlesbrough a Bwrdeistref Langbaurgh-on-Tees (ailenwyd yn Fwrdeistref Redcar a Cleveland) yn rhannau o Ogledd Swydd Efrog; a rhannwyd Bwrdeistref Stockton-on-Tees rhwng y ddwy sir.
Avon · Berkshire · Caint · Cernyw · Cleveland · Cumbria · De Swydd Efrog · Dinas Llundain · Dorset · Dwyrain Sussex · Dyfnaint · Essex · Glannau Merswy · Gogledd Swydd Efrog · Gorllewin Canolbarth Lloegr · Gorllewin Sussex · Gorllewin Swydd Efrog · Gwlad yr Haf · Hampshire · Henffordd a Chaerwrangon · Humberside · Llundain Fwyaf · Manceinion Fwyaf · Norfolk · Northumberland · Suffolk · Surrey · Swydd Amwythig · Swydd Bedford · Swydd Buckingham · Swydd Derby · Swydd Durham · Swydd Gaer · Swydd Gaergrawnt · Swydd Gaerhirfryn · Swydd Gaerloyw · Swydd Gaerlŷr · Swydd Hertford · Swydd Lincoln · Swydd Northampton · Swydd Nottingham · Swydd Rydychen · Swydd Stafford · Swydd Warwick · Tyne a Wear · Wiltshire · Ynys Wyth