Neidio i'r cynnwys

Chikan

Oddi ar Wicipedia
Chikan
Mathaflonyddu rhywiol Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Yr eicon a ddefnyddir amlaf fel rhybudd fod chikan yn digwydd yn aml yn yr orsaf yma
Rhybudd o chikan mewn gorsaf drenau yn Hong Kong

Aflonyddu corfforol, rhywiol ar gorff person yw Chikan (Japaneeg: 痴漢, チカン, neu ちかん) a gyflawnir yn erbyn ewyllys y dioddefwr. Defnyddir y term yn aml i ddisgrifio dynion sy'n manteisio ar drenau gorlawn ar y systemau tramwy cyhoeddus yn Japan, lle mae'r dioddefwr (merch ysgol fel arfer) yn methu symud oherwydd yr holl bobl o'i chwmpas, nac yn medru adnabod y person sy'n cyflawni'r weithred. Oherwydd fod gan bob rhanbarth ei deddfau (neu ddiffyg deddfau) ei hun, ac oherwydd diwylliant o droi llygad dall, mae chikanu'n broblem fawr yn ninasoedd Japan.[1][2] Gall dynion hefyd fod yn ddioddefwyr.[3] Nid Japan yw'r unig wlad lle ceir cyffwrdd anghyfreithiol, ond mae'n digwydd yma'n fwy nag unrhyw wlad arall yn ôl yr ystadegau.

Er mai merched ysgol ar drenau gorlawn yn Japan yw targedau amlaf chikan, gall y drwgweithredwr hefyd fanteisio ar bobl mewn sefyllfaoedd eraill ee mewn llefydd parcio beiciau, lle bydd y gweithredwr yn aros nes bod menyw yn plygu drosodd, yn datgloi clo eu beic, ac yna'n eu cyffwrdd o'r tu ôl. Mae Chikan yn aml yn ymddangos mewn pornograffi Japaneaidd, ynghyd â drwgweithredowedd a themâu eraill nad ydynt yn gydsyniol.[4]

Erbyn y 2020au roedd cwmnïau rheilffordd wedi dynodi ceir teithwyr i fenywod yn unig, fel rhan o'r ymdrech i frwydro yn erbyn chikan.[5][6][7] Dywedodd Asiantaeth Genedlaethol yr Heddlu yn Japan fod rhwng 2,000 i 3,000 o bobl yn cael eu harestio'n flynyddol am Chikanu.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Catching the men who sell subway groping videos" (yn Saesneg). BBC News. 2023-06-07. Cyrchwyd 2023-06-08.
  2. Daijirin dictionary entry for chikan
  3. Zhu, Lingfeng (2023). "Criminal remedies for sexual rights of male in Japan and China" (yn ja). Tokyo Metropolitan University Journal of Law and Politics 63 (2): 423–458. ISSN 18807615. https://hdl.handle.net/10748/00013415.
  4. WuDunn, Sheryl (17 Rhagfyr 1995). "On Tokyo's Packed Trains, Molesters Are Brazen". The New York Times. Cyrchwyd 2016-10-13.
  5. The His and Hers Subway Archifwyd 26 Rhagfyr 2007 yn y Peiriant Wayback
  6. "Japan Tries Women-Only Train Cars to Stop Groping". ABC News.
  7. "Women-Only Cars on Commuter Trains Cause Controversy in Japan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-11-13. Cyrchwyd 2005-10-29.
  8. 令和3年警察白書 統計資料 2-41 痴漢事犯の検挙状況等の推移 (yn Japaneeg). Asiantaeth Genedlaethol Heddlu Japan. Cyrchwyd 2022-06-29.