Charles Péguy
Charles Péguy | |
---|---|
Ffugenw | Pierre Deloire, Pierre Baudouin |
Ganwyd | Charles-Pierre Péguy 7 Ionawr 1873 Orléans |
Bu farw | 5 Medi 1914 Le Plessis-l'Évêque |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, bardd, awdur ysgrifau, newyddiadurwr, athronydd, dramodydd, person milwrol, beirniad llenyddol |
Mudiad | athroniaeth wleidyddol, personalism |
Priod | Charlotte Péguy |
Plant | Pierre Péguy, Marcel Péguy, Germaine Péguy |
Gwobr/au | Mort pour la France, Cystadleuthau Cyffredinol, Estrade-Delcros award, Broquette-Gonin prize in poetry, Chevalier de la Légion d'Honneur, Croix de guerre 1914–1918 |
Gwefan | http://www.charlespeguy.fr/ |
llofnod | |
Bardd, ysgrifwr, a golygydd o Ffrainc oedd Charles Péguy (7 Ionawr 1873 – 5 Medi 1914) a ddefnyddiai ei ysgrifbin i fynegi ei athroniaeth Gristnogol a'i sosialaeth wladgarol.
Ganed yn Orléans, Loiret, yng nghyfnod Trydedd Weriniaeth Ffrainc, i deulu tlawd. Bu farw ei dad pan oedd Charles yn faban, ac enillodd ei fam arian wrth drwsio cadeiriau. Derbyniodd Charles ysgoloriaeth i fynychu'r lycée yn Orléans, ac ym 1894 cafodd ei dderbyn i'r École Normale Supérieure ym Mharis. Ei nod oedd i gael swydd yn athro athroniaeth. Trodd Péguy yn sosialydd ym 1895, ac yn raddol rhoes y gorau i'w Gatholigiaeth Rufeinig draddodiadol, er iddo barhau yn Gristion pybyr. Ysgrifennodd driawd o ddramâu, Jeanne d'Arc (1897), yn ddatganiad o'i daliadau crefyddol a gwleidyddol.[1] Dan ddylanwad Lucien Herr, llyfrgellydd yr École Normale Supérieure, ymochrai Péguy â'r Dreyfusiaid yn achos Dreyfus, a rheolodd siop lyfrau a oedd yn fan cyfarfod i'r Dreyfusiaid.
Ym 1900 sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Cahiers de la Quinzaine, a fyddai'n cyhoeddi gwaith gan nifer o lenorion a meddylwyr amlwg gan gynnwys Anatole France, Henri Bergson, Jean Jaurès, a Romain Rolland. Cyhoeddodd Péguy sawl cyfrol o'i ysgrifau, ac mae ei farddoniaeth yn cynnwys Le Mystère de la charité de Jeanne d’Arc (1910), gwaith cyfriniol sydd yn ymhelaethu ar olygfeydd Jeanne d'Arc; Mystère des Saints Innocents (1912); ac Ève (1913), cerdd Gristnogol ar ffurf 4000 o alecsandrinau.[1]
Yn sgil dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Péguy i'r ffrynt fel lefftenant. Bu farw ym Mrwydr Cyntaf y Marne, ger Villeroy, Seine-et-Marne, yn 41 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Charles Péguy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mawrth 2021.
- Genedigaethau 1873
- Marwolaethau 1914
- Athronwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Athronwyr Cristnogol o Ffrainc
- Beirdd yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Beirdd Ffrangeg o Ffrainc
- Dramodwyr y 19eg ganrif o Ffrainc
- Dramodwyr Ffrangeg o Ffrainc
- Golygyddion o Ffrainc
- Sosialwyr o Ffrainc
- Pobl o Orléans
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Ffrangeg o Ffrainc