Neidio i'r cynnwys

Cetiaid

Oddi ar Wicipedia
Cetiaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Shaman o lwyth y Cetiaid, Siberia; ffotograff a dynnwyd yn 1914

Mae'r Cetiaid neu Ketiaid (Rwseg: Кеты) yn bobl o Siberia sy'n siarad yr iaith Cet neu Ceteg.

Arferid ei galw yn Ostyakiy yn Rwseg, gair a oedd yn cynnwys llwythi eraill o Siberia. Galwyd nhw hefyd yn Ostiaciaid Yenisei, gan eu bod yn byw yng nghanol a gwaelod basn Afon Yenisei yn Crai Krasnoyarsk, Rwsia. Mae'r Cetiaid modern yn byw yng ngorllewin rhan canol y basn, bellach.

Cysylltwyd eu hiaith i'r teulu hwnnw o ieithoedd a elwir yn Na-Dené, sy'n tarddu o Ogledd America. Yr enw Ceteg am ddynion ydy "deng".

Yn 1826 roedd 1,428 o Getiaid yn weddill gyda 1225 (85.8%) yn siaradwyr iaith gyntaf. Erbyn cyfrifiad 1989 roedd y nifer wedi gostwng i 1,113 gyda dim ond 537 (48.3%) yn siaradwyr iaith gyntaf. Credir fod tua 600 heddiw yn siarad yr iaith, sy'n hollol wahanol i bob iaith arall yn Siberia.

Y cysylltiad Celtaidd

[golygu | golygu cod]

Credir bellach fod y Cymry a'r cenhedloedd Celtaidd eraill a'r Basgiaid yn ddisgynyddion yr Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Palaeolithig o Siberia ac mae tystiolaeth genynnol yn eu holrhain yn ôl i tua 50,000 o flynyddoedd a hynny i ardal Dyffryn Yenisei yn Siberia, ac yn arbennig i'r Cetiaid. Maen' nhw heddiw yn cario'r un fersiwn o'r cromosomau "Y" â'r Cymry a phobloedd brodorol America.[1] Dywed y gwyddonydd genynnau Steve Jones yn ei lyfr Y - The Descent of Man (2002), "Mae’r cromosomau yn datgelu cyswllt hynafol rhwng pobl Cymru a brodorion America...Yng Nghymru mae naw allan o bob deg dyn cyn cludo rhyw fersiwn o haplogrwp 1...mae un is-deip yn gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw..."[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Y Faner Newydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2010-07-02.