Neidio i'r cynnwys

Cerddoleg

Oddi ar Wicipedia
Cerddoleg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, pwnc gradd Edit this on Wikidata
Mathmusic, Geisteswissenschaften, diwyllianneg Edit this on Wikidata
Rhan oQ113296040 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud â cherddoriaeth yw cerddoleg.[1] Mae'n cwmpasu pob agwedd o gerddoriaeth, ac eithrio yr arfer o berfformio a chyfansoddi ei hun, hynny yw hyfforddiant cerddorol. Un o feysydd y dyniaethau yw cerddoleg. Mewn astudiaethau hanesyddol mae gwreiddiau'r maes, a datblygodd yn hwyrach i grybwyll dadansoddiad a damcaniaeth. Yn hanesyddol bu pwyslais ar gerddoriaeth Ewrop a cherddoriaeth glasurol yn enwedig,[2] ond bellach caiff pob genre, cyfnod, a diwylliant ei astudio gan y cerddolegydd. Rhennir cerddoleg yn is-feysydd: ffurf a nodiant, bywydau'r cyfansoddwyr a'r cerddorion, datblygiad offerynnau cerdd, damcaniaeth cerddoriaeth, ac estheteg, acwsteg, a ffisioleg.[3]

Damcaniaeth

[golygu | golygu cod]

Maes eang sy'n crybwyll egwyddorion ac elfennau cerdd yw damcaniaeth cerddoriaeth: rhythm a metreg, moddion a graddfeydd, offeryniaeth, ffurf, ac harmoni.[4] Weithiau caiff damcaniaeth cerddoriaeth ei astudio'n bwnc ar wahân i gerddoleg mewn prifysgolion, gan ei bod yn ymwneud ag elfennau ymarferol.

Hanes cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Mae'r hanesydd cerdd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys dadansoddi testunau a nodiant (paleograffeg), ymchwil archifol, a'r dull cymharol.[2]

Estheteg

[golygu | golygu cod]

Agwedd athronyddol ar gerddoriaeth yw estheteg, sy'n ymchwilio i effeithiau, emosiynau, semanteg, ontoleg, a chanfyddiad gweithiau cerddorol.[2]

Acwsteg

[golygu | golygu cod]
Prif: Acwsteg

Ffiseg sain gerddorol yw acwsteg.

Ffisioleg

[golygu | golygu cod]

Mae ffisioleg y llais, y glust a'r dwylo o ddiddordeb i gerddolegwyr.

Ethnogerddoleg

[golygu | golygu cod]
Yr ethnograffydd Frances Densmore yn recordio caneuon y penadur Piikáni (Blackfoot) Mountain Chief ym 1916.

Trwy gyfuno astudiaethau cerdd ag ethnoleg, datblygodd y maes ethnogerddoleg sy'n astudio agweddau diwylliannol a chymdeithasol cerddoriaeth. Hon yw agwedd anthropolegol neu ethnograffig cerddoleg.

Organoleg

[golygu | golygu cod]

Astudiaeth offerynnau cerdd yw organoleg: eu hanes, dyluniad, a gwneuthuriad.

Addysg a gwerthfawrogiad

[golygu | golygu cod]

Pwrpas beirniadaeth cerdd yw dadansoddi, disgrifio, a dehongli gweithiau cerddorol, neu'r broses gerddorol. Mae'r is-faes hwn yn tynnu ar estheteg yn bennaf.[2]

Agweddau eraill

[golygu | golygu cod]

Cafwyd effaith ar gerddoleg gan wyddorau cymdeithas, yn bennaf cymdeithaseg a seicoleg. Hefyd yn astudiaethau diwylliannol, mae delw-arluniaeth yn gynrychioliad gweledol o bynciau cerddorol, megis offerynnau a cherddorion, mewn testunau, celfyddyd, arian, a chyfryngau eraill.[2]

Dull ac agweddau

[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gellir olrhain astudiaethau cerddorol i oes yr hen Roeg, a gwaith yr athronwyr parthed gwerthoedd moesol ac esthetaidd. Datblygant hefyd damcaniaethau mathemategol ar natur cerddoriaeth a dosbarthiad o foddion cerddorol. Goroesoedd y syniadau hyn drwy ysgolheictod yr Arabiaid a'r Cristnogion, a'u cynnal hyd yr Oesoedd Canol. Un o'r trawsnewidiadau yn Ewrop oedd nodiant y mynach Guido o Arezzo (c. 990–1050) a'i effaith ar addysg gerdd. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau ar estheteg a damcaniaeth yn ystod y Dadeni, gan gynnwys traethodau ar offerynnau cerdd gan Henri Arnaut de Zwolle, Johannes Tinctoris, a Sebastian Virdung. Trwy'r cyfnod hwn, ni ystyrid egwyddorion cerddoriaeth yn faes ar wahân i berfformio a chyfansoddi.[3]

Cychwynodd ymchwil hanesyddol ym maes cerddoriaeth yn y 18g. Ymhlith y gweithiau cynnar mae hanesion yr Eidalwr G. B. Martini (Storia della musica; 1757–81), yr Almaenwr Martin Gerbert (De cantu et musica sacra; 1774), a'r Saeson Charles Burney (General History of Music; 1776–89) a J. Hawkins (General History of the Science and Practice of Music; 1776). Yn y 19eg ganrif cynyddodd diddordeb yng ngherddoriaeth hynafol a chanoloesol, ac ymdrechodd ysgolheigion i ddeall yr hen ffurfiau o nodi cerddoriaeth. Llwyddodd y Belgiad François Joseph Fétis (1784–1871) a'r Awstriad August Wilhelm Ambros (1816–76) i lunio hanesion cynhwysfawr o ddatblygiad cerddoriaeth Ewropeaidd, gan gynnwys trawsgrifiadau o gyfansoddiadau o'r Oesoedd Canol a'r Dadeni. Ymddiddorodd Samuel Wesley, Felix Mendelssohn ac eraill yng ngweithiau'r cyfansoddwyr cynt, a gwnaed rhagor o ymchwil i'r hen nodiant gan Johannes Wolf.[3] Bathwyd yr enw Almaeneg Musikwissenschaft gan yr athro cerdd J. B. Logier ym 1827.[4] Yn ei lyfr Jahrbücher für musikalischer Wissenschaft (1863), defnyddiodd F. Chrysander y gair hwnnw wrth ddadlau dros astudio gwyddor cerdd a gosod sylfaen a safonau methodolegol iddi.[3] Ymledodd yr enw ar draws Ewrop a chafodd yr astudiaethau hanesyddol eu mabwysiadu gan y maes newydd.

Sefydlwyd y Gymdeithas Gerddoriaeth Frenhinol ym Mhrydain ym 1874, a'r Gymdeithas Gerddoleg Americanaidd ym 1934. Pwrpas y Gymdeithas Gerddoriaeth Ryngwladol (1900–14) oedd i hybu astudiaeth cerddoleg, a pharháodd dan ei olynydd y Société Internationale de Musicologie a sefydlwyd ym 1928.[4] Cafwyd dylanwad ar gerddoleg gan seicoleg ac ethnoleg, a daeth bywgraffiad yn agwedd bwysig o'r maes.[3] Ymchwiliodd cerddolegwyr yn ddyfnach i'r gerddoriaeth gynharaf. Ers canol yr 20g, mae cerddoleg yn bwnc mewn nifer o brifysgolion a cheir sawl cyfnodolyn sy'n ymdrin ag agweddau arbenigol y maes.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, [musicology].
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) "musicology" yn y New Dictionary of the History of Ideas (Gale, 2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 (Saesneg) musicology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) "musicology" yn The Concise Oxford Dictionary of Music (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 23 Ionawr 2017.