Neidio i'r cynnwys

Castlejordan

Oddi ar Wicipedia
Castlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth Iwerddon
Mathendid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Meath
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.3966°N 7.1115°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref a threfgordd yn Swydd Meath/an Mhí, Iwerddon/Éire, yw Caisleán Shiurdáin, neu Castlejordan.[1] Fe'i lleolir yn ne'r sir, yn agos at y ffin â Swydd Offaly/Contae Uíbh Fhailí, i'r de o Kinnegad/Cionn Átha Gad.[2][3] Mae Caisleán Shiurdáin yn ardal o tua 2.2km,[4] ac roedd yno boblogaeth o 85 o bobl yng nghyfrifiad 2011.

Mae Caisleán Shiurdáin wedi'i enwi ar ôl Jordan De Courcy, cyndad y teulu Normanaidd De Courcy. Yn dilyn marwolaeth ei ewythr John De Courcys yn Dun Phádraig, alltudiwyd Jordan De Courcy i Gaerwysg. Ar ei ddychweliad i Iwerddon adeiladodd gastell yn yr ardal.[5][6]

Mae tystiolaeth o anheddu hynafol yn yr ardal yn cynnwys safleoedd cloddiau yn nhrefi cyfagos Cill Daingin a Harristown.[7] Mae tŵr canoloesol adfeiliedig yn y pentref, a oedd yn gysylltiedig yn hanesyddol â’r teulu Gifford.[8][9]

Mae adeilad Eglwys Iwerddon (Anglicanaidd) y pentref (adeiladwyd c. 1823 ) bellach yn adfail i raddau helaeth,[10] ond mae'r eglwys Gatholig Rufeinig (adeiladwyd c. 1840 ) yn dal i cael ei defnyddio ac wedi ei chysegru i'r Drindod Sanctaidd.[11]

Mwynderau a chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae pentref Caisleán Shiurdáin yn cynnwys tafarn, swyddfa bost, a'r eglwys Gatholig Rufeinig.[12] Roedd gan yr ysgol (cynradd) genedlaethol leol, Ysgol Genedlaethol Ganolog Caisleán Shiurdáin (a elwir hefyd yn Ysgol Gynradd Sant Ciarán), gofrestriad o 85 o ddisgyblion nôl yn 2020.[13]

Ballinabrackey GAA yw clwb lleol Cymdeithas Athletau Gaeleg.[14]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Caisleán Shiurdáin / Castlejordan". logainm.ie. Placenames Database of Ireland. Cyrchwyd 8 February 2021.
  2. "Townlands in Castlejordan". townlands.ie. Cyrchwyd 7 Chwefror 2021.
  3. "Castlejordan: Records, maps and place-names". johngrenham.com. Cyrchwyd 7 February 2021.
  4. "Castlejordan Townland, Co. Meath". townlands.ie. Cyrchwyd 8 Chwefror 2021.
  5. "Ancestors of Jordan De Courcy". www.decourcy.net. Cyrchwyd 2021-02-09.
  6. O'Hart, John (1888). Irish Pedigrees: Or, The Origin and Stem of the Irish Nation (yn Saesneg). J. Duffy and Company.
  7. Archaeological Inventory of County Meath. Dublin: Government Stationery Office.
  8. Lewis, Samuel (1837). "Castle-Jordan". A Topographical Dictionary of Ireland. Lewis.
  9. "ME02027 - Castlejordan - Castle - Tower House". meathheritage.com. Cyrchwyd 8 Chwefror 2021.
  10. "Castlejordan Graveyard, Castlejordan, Castlejordan, Meath". buildingsofireland.ie (yn Saesneg). National Inventory of Architectural Heritage. Cyrchwyd 7 February 2021.
  11. "Church of the Trinity, Lewellensland, Castlejordan, Meath". buildingsofireland.ie. National Inventory of Architectural Heritage. Cyrchwyd 9 February 2021.
  12. "Church of the Holy Trinity Castlejordan". ballinabrackeyandcastlejordan.com. Ballinabrackey Castlejordan Parish. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-14. Cyrchwyd 8 February 2021.
  13. "Castlejordan Central NS". education.ie. Department of Education. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2021.
  14. "Ballinabrackey". Meath G.A.A. (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Chwefror 2021.