Castell Nanhyfer
Math | adfeilion castell, castell, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.026518°N 4.796965°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE160 |
Castell canoloesol ger Nanhyfer, Sir Benfro, yw Castell Nanhyfer. Un o gestyll y Normaniaid ydoedd ar y dechrau, ond cafodd ei gipio a'i ailgodi gan dywysogion Deheubarth. Mae'n bosibl y bu bryngaer o Oes yr Haearn ar y safle cyn hynny.
Sefydlwyd Castell Nanhyfer yn gynnar yn y 12g gan y Normaniad Robert fitz Martin, Arglwydd Cemais. Castell mwnt a beili nodweddiadol o waith y Normaniaid oedd y castell cyntaf. Pasiodd i ddwylo William fitz Martin, disgynydd Robert, a briododd Angharad, ferch yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth. Oherwydd rhyw anghydfod, cipiodd yr Arglwydd Rhys y castell yn 1191. Cododd gorthwr o gerrig yng nghornel y castell mwnt a beili, gan addasu'r hen amddiffynwaith hefyd trwy godi llenfur o gerrig. Codwyd mwnt gyda gorthwr arall ar ei ben hefyd. Ond yn ddiweddarach cafodd Rhys ei ddal a'i garcharu am dair mlynedd yn y castell gan ei feibion gwrthryfelgar, Hywel a Maelgwn: cyfeiria Gerallt Gymro at y digwyddiad. Ymddengys fod y castell wedi cael ei difetha a'i adael gan Gymry Deheubarth ar ddiwedd y ganrif ar ôl i'r Normaniaid godi castell cryf newydd yn Nhrefdraeth, rhai milltiroedd yn unig i'r de-orllewin.
Gorwedd adfeilion y castell ar fryn isel ger eglwys Nanhyfer. Mae'r safle ar agor i'r cyhoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)