Castell Hearst
Math | plasty, tirnod, California state historic park |
---|---|
Enwyd ar ôl | William Randolph Hearst |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Hearst San Simeon State Historical Monument |
Lleoliad | San Simeon |
Sir | San Luis Obispo County |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 35.6853°N 121.1678°W |
Arddull pensaernïol | Pensaernïaeth Adfywiad Trefedigaethol Sbaenaidd, pensaernïaeth adfywiadol Canoldirol |
Perchnogaeth | William Randolph Hearst |
Statws treftadaeth | National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA |
Manylion | |
Plasty ger San Simeon, Califfornia yw Castell Hearst. Lleolir ar Ffordd 1 tua hanner ffordd rhwng San Francisco a Los Angeles. Perchennog y castell oedd William Randolph Hearst (1863-1951), a oedd yn flaellaw ym myd papurau newydd a chylchgronau. Roedd ganddo dir a thai ar draws y byd, gan gynnwys Castell Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg. Roedd Hearst wedi teithio ar draws Ewrop pan oedd yn ddeg oed, ac am weddill ei oes roedd yn awyddus i gael cartref tebyg i'r rhai y gwelodd yno. Cydweithiodd efo'r pensaer Julia Morgan dros gyfnod o 28 mlynedd, gan ddechrau ym 1919, er mwyn creu Castell Hearst. Mae'r gwestai a ymwelodd a'r castell yn cynnwys Calvin Coolidge, Winston Churchill, George Bernard Shaw, Charles Lindbergh a Charlie Chaplin.[1]. Mae gan Y Cuesta Encantada (Y Bryn Swynol) 127 acer o erddi, terasau a phyllau, ac roedd yna sŵ.[2] Mae gan y prif dŷ, La Casa Grande, 116 ystafell a a sawl bwthyn ar gyfer gwestai.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Adran Parciau Califfornia
- ↑ "Tudalen Julia Morgen ar wefan architecture.about.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-23. Cyrchwyd 2013-02-12.