Castell Cliffordd
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Clifford, Swydd Henffordd |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.1043°N 3.10527°W |
Cod OS | SO2434945677 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Castell Normanaidd yn Swydd Henffordd, Lloegr, yw Castell Clifford. Mae'n gorwedd ym mhentref Clifford ar lan Afon Gwy o fewn tafliad carreg i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, tua 3 milltir i'r gogledd o'r Gelli Gandryll. Mae Guto'r Glyn(c.1435 – c.1493) yn cyfeirio ato fel Cliffordd.[1]
Codwyd castell mwnt a beili ar y safle yn 1070 gan William FitzOsbern i amddiffyn y rhyd strategol ar Afon Gwy. Bwriadwyd sefydlu tre newydd yno, ond ni wireddwyd y cynllun. Codwyd castell pur sylweddol o gerrig ar y safle yn nes ymlaen. Daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Clifford, un o arglwyddiaethau'r Mers.
Newidiodd y castell ddwylo sawl gwaith dros y ganrif a hanner nesaf. Erbyn y 1230au roedd ym meddiant Walter III de Clifford, wŷr Walter Fitz Richard. Roedd y Walter hwn - y cyfeirir ato fel Gwallter gan y Cymry - wedi ymgynghreirio â Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Chymru, trwy briodas ag un o'i ferched. Fel y gweddill o Arglwyddir'r Mers, roedd y Gwallter yma yn hynod annibynnol. Yn 1233 cododd mewn gwrthryfel yn erbyn Harri III, brenin Lloegr. Ym mis Medi gwarchaeodd y brenin Gastell Clifford ac ildiodd y garsiwn o fewn dyddiau. Gwnaeth Walter Clifford ei heddwch a'r Goron Seisnig ac yna arweiniodd byddin yn erbyn ei fab-yng-nghyfraith, Llywelyn. Mae'n debyg nad oedd gan Wallter ddewis ond i gymodi â Harri III, ond roedd troi yn erbyn Llywelyn yn beth gwarthus gan fod y tywysog newydd cyrraedd gyda byddin o Gymry i'w gynorthwyo. Ugain mlynedd yn nes ymlaen bu bron iawn i Wallter wrthryfela eto pan sarhaodd negesydd brenin Lloegr. Collodd lawer o'i freintiau am hynny.
Yn 1402, dinistriwyd y castell gan un o fyddinoedd Owain Glyndŵr ar ôl buddugoliaeth ysgubol Brwydr Bryn Glas.
Heddiw mae'r castell yn adfail.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Remfry, P.M., Clifford Castle, 1066 to 1299 (ISBN 1-899376-04-6)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) SMR: Clifford Castle Archifwyd 2008-07-25 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Y castell ar wefan Castle Wales
- ↑ www.gutorglyn.net; Archifwyd 2021-07-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler Trydariad yma.