Carl Morris
Carl Morris | |
---|---|
Ganwyd | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ymgynghorydd TG, datblygwr gwefanau |
Gwefan | https://morris.cymru |
Ymgyrchydd iaith, haciwr a datblygydd gwe proffesiynol o Gymru yw Carl Morris, sy'n enw blaenllaw ym myd technoleg Cymraeg. Fe'i magwyd yng Nghaerdydd lle mynychodd Ysgol Uwchradd Canton rhwng 1992 a 1999. Sefydlodd a chyd-sefydlodd nifer o ymgyrchoedd a mudiadau megis Hacio'r Iaith (Tachwedd 2009) a bu'n lladmerydd amlwg dros ddatganoli darlledu yn y 2010au. Yn ei lyfr Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg, dywed yr Athro Simon Brooks fod "y datblygwr gwe Carl Morris, aelod pwysig o Gymdeithas yr Iaith, a golygydd @CymryTseiniaidd cyfri Twitter... o gefndir Tseiniaidd."[1]
Rhwng Hydref 2009 a Thachwedd 2017 bu Carl Morris yn un o bartneriaid cwmni TG NativeHQ.[2] Roedd yn gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith yn y 2010au a'r 2020au. Ar yr un pryd, yn y 2010 cynnar, roedd ar banel ymgynghorol technoleg gwybodaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n parhau fel ymgonghorydd technoleg llawrydd llawn amser yn 2023 ac ers Ionawr 2016 mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol O'R PEDWAR GWYNT CYF.[3] Fel awdur gwe, mae'n rheoli sawl gwefan gan gynnwys fel Hedyn, Blogiadur a Morris.cymru.[4] Mae Hedyn yn wefan lle gellir rhannu unrhyw ddolenni, gwybodaeth a chael trafodaeth) am ddatblygiadau technolegol, Cymraeg, ar-lein.
Cymuned o ddatblygwyr proffesiynol ac amatur yw Hacio'r Iaith, a gyd-sefydlwyd gan Carl Morris, datblygwyr TG sy'n dod ynghyd i drin a thrafod y berthynas rhwng y Gymraeg a thechnoleg ac i ddatblygu syniadau ar sut gall yr iaith fanteisio ar dechnoleg.[5]
Yn 2020 galwodd, ar ran Cymdeithas yr Iaith, am sefydlu mudiad newydd, y Fenter Ddigidol Gymraeg, sef corff newydd i greu cynnwys a phrofiadau technolegol: popeth Cymraeg ar lein.[6][7]
Meddalwedd
[golygu | golygu cod]Mapio Cymru
[golygu | golygu cod]Carl Morris yw datblygwr gwe Mapio Cymru, prosiect sy'n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r map cynnwys agored hwn yn hwyluso'r gwaith o rannu enwau llefydd Cymraeg sy'n defnyddio cod agored OpenStreetMap a Wicidata. Fel y gwelir o'r prif fap yma, a'r map drafft ar weinydd Morris, mae'n ddull hwylus i fewnbynnu enwau mewn achosion lle mae'r data'n anghyflawn.
Wicipedia
[golygu | golygu cod]Yn Rhagfyr 2016, comisiynodd Wikimedia UK Carl i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Sgwennwyd y bots mewn PHP (iaith gyfrifiadurol) i bostio'r cyfan yn awtomatig, yn ddyddiol. Ymhlith y bots a grewyd ganddo y mae:
- @wicipedia - sy'n trydar sylw i erthyglau newydd
- #unigrywunigryw - sy'n trydar ar hap erthyglau nad ydynt ar gael mewn unrhyw iaith arall[8]
- Menywod Mewn Coch - a ddaeth i ben pan gyrrhaeddodd y Wicipedia Cymraeg uchafbwynt byd-eang, gyda mwy o erthyglau ar fenywod nag ar ddynion.
Personol
[golygu | golygu cod]Mae Carl yn briod ac mae ganddynt ddau o blant.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ amazon.co.uk; adalwyd 11 Ionawr 2023.
- ↑ [httôrl/ nativehq.com;] adalwyd 11 Ionawr 2023.
- ↑ Cyfrif LinkedIn Carl Morris; adalwyd 11 Ionawr 2023.
- ↑ hedyn.net; adalwyd 12 Ionawr 2023.
- ↑ hedyn.net; teitl: Hacio'r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2013; adalwyd 12 Ionawr 2023.
- ↑ morris.cymru; teitl: y Fenter Ddigidol Gymraeg; adalwyd 12 Ionawr 2023.
- ↑ cymdeithas.cymru; teitl: Menter Ddigidol Gymraeg; adalwyd 12 Ionawr 2023.
- ↑ gwefan swyddogol morris.cymru; adalwyd 11 ionawr 2023.