Buffy Williams
Gwedd
Buffy Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1976 Trewiliam |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 6ed Senedd Cymru |
Plaid Wleidyddol | Llafur Cymru |
Aelod o'r Senedd dros Rhondda ers Mai 2021 yw Elizabeth "Buffy" Williams (ganwyd Kerslake, 1 Tachwedd 1976).[1]
Enillodd Williams sedd Rhondda yn etholiadau’r Senedd yn 2021, gan drechu cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.[2]
Cafodd Williams ei geni yn Nhrewiliam, Rhondda Cynon Taf. Mae hi'n gweithio fel rheolydd Canolfan Pentre.[3]
Ym mis Mawrth 2021, enwebodd y blaid Lafur Williams ar gyfer gwobr Llywodraeth Cymru, Gwobrau St David, ar ôl iddi gael ei dewis yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd. Beirniadwyd y penderfyniad gan y Ceidwadwyr.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morris, Steven (7 Mai 2021). "Labour makes big gains in Wales defeating ex-Plaid Cymru leader". theguardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mai 2021.
- ↑ "Etholiad 2021: Llafur yn cadw seddi pwysig ac yn cipio'r Rhondda". BBC Cymru Fyw. 8 Mai 2021. Cyrchwyd 9 Mai 2021.
- ↑ "Elizabeth (Buffy) Williams and Canolfan Pentre". St David Awards. 9 Chwefror 2021. Cyrchwyd 8 Mai 2021.
- ↑ James Williams (23 Mawrth 2021). "Labour candidates for St David Awards 'inappropriate'". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mai 2021.