Neidio i'r cynnwys

Bryn y Croesau

Oddi ar Wicipedia
Bryn y Croesau
Mathbryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirŠiauliai District Municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Lithwania Lithwania
Uwch y môr105 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.01528°N 23.41667°E Edit this on Wikidata
Map

Bryn y Croesau (Lithwaneg: Kryžių kalnas ) yw man pererindod tua 12 km i'r gogledd o ddinas Šiauliai, yng ngogledd Lithwania. Credir bod pobl wedi gosod y croesau cyntaf ar y bryn (bryngaer Jurgaičiai neu Domantai cynt) ar ôl gwrthryfel 1831. Dros y blynyddoedd gosodwyd croesau, croesluniau, cerfluniau o'r Forwyn Fair, cerfiadau gwladgarwyr, a miloedd o ddelwau bychain a phaderestri gan bererinion Catholig. Nid yw'r nifer o groesau yn wybyddys, ond amcangyfrifwyd bod tua 55,000 ohonynt yn 1990 a 100,000 yn 2006. Mae'n lleoliad pwysig ar gyfer bererinion o hyd.

Golygfa agos o Fryn y Croesau

Arwydd yw'r lleoliad yma o ddioddefgarwch heddychlon pobl Lithwania er y bygythiadau maent wedi'u hwynebu dros y canrifoedd. Yn 1795 daeth Lithwania i fod yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Cododd pobl y Wlad Pwyl a Lithwania yn erbyn awdurdod Rwsia yn 1831 ag 1863. Nid oedd teuluoedd yn gallu lleoli cyrff y gwrthryfelwyr, felly dechreuasant godi croesau ar safle'r bryngaer.

Nifer o groesau
1800s dros 9,000
1900 130
1902 155
1922 50
1938 dros 400
1961 5,000 a ddinistriwyd
1975 1,200 a ddinistriwyd
1990 tua 55,000
2006 dros 100,000
Cofeb argraffwyd gyda geiriau Pab John Paul II: Diolch, bobl Lithwania am y Bryn Croesau hwn sy'n tystio i genhedloedd Ewrop a'r Byd cyfan ffydd pobl y fro hon.

Yn dilyn annibyniaeth yn 1918, defnyddiwyd Bryn y Croesau fel man gweddïo am heddwch, am eu gwlad ac am yr aelodau teulu a gollwyd yn ystod y Rhyfeloedd Annibyniaeth.

Yn ystod y cyfnod 1944–1990, pan gipiwyd Lithwania gan yr Undeb Sofietaidd, defnyddiwyd y bryn gan Lithwaniaid i ddangos eu hunaniaeth, treftadaeth a chrefydd. Gweithiodd yr awdurdodau Sofietaidd yn galed i ddileu croesau newydd (er enghraifft yn 1963 a 1973).

Ar y 7fed o Fedi, 1993, daeth Pab John Paul II i weld Bryn y Croesau, gan ddatgan ei fod yn le ar gyfer gobaith, heddwch, cariad ac aberth. Yn y flwyddyn 2000 agorwyd meudwyfan Ffransisgaidd ar y safle. Yn Mis Mai 2013, mabwysiadodd Bwrdeistref Ardal Šiauliai reoliadau newydd ynglŷn â gosod croesau newydd. Gellid gosod croes llai na 3m mewn uchder heb ganiatad.

Yn Mis Rhagfyr 2019, cymerodd twrist benywaidd o China groes y credir a osodwyd yna gan grŵp pro-democratiaeth Hong Kong, gan ei thaflu i ffwrdd. Ar Twitter ac Instagram dywedodd, "Rydym wedi gwneud peth da heddiw. Mawr yw ein mamwlad". Condemniwyd y gweithred gan Weinidog Tramor Lithwania Linas Linkevičius ar Twitter. Dywedodd ei fod yn "weithred gwarthus ac amharchus o fandaliaeth ac na fyddai'r fasiwn ymddygiad yn cael ei ddioddef".

Cysylltiadau

[golygu | golygu cod]