Bryn Newton-John
Bryn Newton-John | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1914 Caerdydd |
Bu farw | 3 Gorffennaf 1992 Manly, Sydney |
Dinasyddiaeth | Cymru Awstralia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, Almaenegwr |
Plant | Olivia Newton-John, Rona Newton-John |
Academydd o Awstralia o dras Gymreig oedd Brinley (Bryn) Newton-John (5 Mawrth 1914 – 3 Gorffennaf 1992). Roedd yn weinyddwr prifysgol ac yn athro llenyddiaeth Almaeneg.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Newton-John yng Nghaerdydd yn blentyn i Oliver John, gweinyddwr ysgol a Daisy (née Newton) ei wraig.[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Treganna ac yng Ngholeg Gonville a Caius, Prifysgol Caergrawnt lle cafodd ddwbl gyntaf yn y tripos ieithoedd modern a chanoloesol.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyn yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio, dechreuodd Newton-John ar yrfa fel athro. Cafodd ei benodi yn feistr cynorthwyol yn Ysgol Christs Hospital, ysgol breifat yn Horsham, Gorllewin Sussex, ym 1936. Ym 1938 symudodd i fod yn feistr yn Ysgol Stowe, ysgol bonedd yn Swydd Buckingham.[1]
Yn ystod y rhyfel
[golygu | golygu cod]Torrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws yrfa academaidd Newton-John. Ym 1940 cafodd ei gomisiynu i'r Awyrlu Brenhinol lle fu'n gweithio ym maes cudd-wybodaeth. Am ddwy flynedd gyntaf ei wasanaeth bu'n gyfrifol am holi peilotiaid o'r Almaen oedd wedi eu dal gan luoedd Prydain. Fel rhan o'r gwaith bu'n holi a gwirio llythyrau Rudolf Hess, dirprwy Adolf Hitler, a ffodd i'r Alban er mwyn ceisio cael cymod rhwng Prydain a'r Almaen.[3]
Ym 1942 aeth i weithio ar brosiect dirgel Ultra, prosiect rhyng-gipio'r signalau cyfathrebu'r gelyn a oedd wedi ei leoli ym Mharc Bletchley.[4] Ei waith oedd dehongli a dadansoddi'r wybodaeth a gafodd ei dadgodio gan y prosiect. Roedd yn rhan o'r tîm a oedd yn darparu gwybodaeth hanfodol am leoliad a chynlluniau'r Maeslywydd Erwin Rommel a fu o gymorth mawr i'r ardalydd Montgomery wrth iddo baratoi am frwydr El Alamein ym mis Hydref 1942.[1]
Ar ôl y rhyfel
[golygu | golygu cod]Ymadawodd Newton-John a'r lluoedd arfog ym mis Medi 1945 gan ail afael ar ei yrfa academaidd. Cafodd ei benodi yn brifathro Ysgol Uwchradd Bechgyn Swydd Gaergrawnt. Ym 1954 symudodd i Awstralia wedi ei benodi yn Feistr Coleg Ormond, Prifysgol Melbourn.[5] Ym 1958 cafodd ei benodi yn athro Almaeneg a phennaeth adran y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Newcastle, a oedd ar y pryd yn rhan o Brifysgol De Cymru Newydd. Arhosodd yn y coleg hyd ei ymddeoliad gan ei gynorthwyo i ddod yn brifysgol annibynnol, Prifysgol Newcastle, ym 1965. Gwasanaethodd fel dirprwy warden y coleg o 1963, is-bennaeth y brifysgol newydd o 1965, a'i dirprwy is-ganghellor o 1968 hyd ei ymddeoliad ym 1974.
Yn 1972 fe'i hetholwyd yn gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Ar ei ymddeoliad, rhoddodd y brifysgol iddo gadair athro emeritws ac a enwyd gwobr am greadigrwydd ac arloesiad er anrhydedd iddo.[1]
Darlledu
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Ormond bu Newton John hefyd yn cyfrannu i'r cwmni teledu lleol ym Melbourn fel actor, canwr a chyflwynydd rhaglenni. O 1981 bu'n cyflwyno rhaglen cerddoriaeth glasurol ar sianel radio 2 MBS-FM bu hefyd yn aelod o fwrdd reoli'r orsaf. Ym 1958 Newton John oedd cadeirydd cyntaf y rhaglen Any Questions (rhaglen debyg i Pawb a'i Farn) ar sianel deledu ABC a Forum rhaglen debyg a darlledwyd ar orsaf NBN 3 ym 1962.
Teulu
[golygu | golygu cod]Bu Newton-John yn briod dair gwaith. Ym 1937 priododd Irene Helene Käthe Hedwig Born, merch y ffisegwr Max Born. Bu iddynt fab a dwy ferch. Eu merch ieuangaf yw'r actor Olivia Newton-John. Cawsant ysgariad ym 1958. Ym 1963 priododd Ter Wee (née Cuningham) cawsant fab a merch cyn ysgaru ym 1983. Ym 1992 priododd y newyddiadurwr Gay Mary Jean Holly.[1]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Manly, De Cymru Newydd o ganser yr afu yn 78 mlwydd oed.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 John Stowell and Jill Stowell, 'Newton-John, Brinley (Brin) (1914–1992)', Australian Dictionary of Biography, National Centre of Biography, Australian National University, , published online 2016, adalwyd 14 Chwefror 2019
- ↑ Wales Online Olivia Newton-John reveals Welsh links adalwyd 14 Hydref 2019
- ↑ Scotish Daily Mail 30 Medi 2016 The Secret Life of Olivia's Dad adalwyd 14 Hydref 2019
- ↑ Budiansky, Stephen: Battle of Wits: The Complete Story of Codebreaking in World War II, Simon and Schuster, 2000, ISBN 0684859327
- ↑ The Argus (Melbourne, Vic) Wed 14 Oct 1953 Page 6 New master of Ormond adalwyd 14 Chwefror 2019
- ↑ Find a Grave Memorial - Brinley “Bryn” Newton-John adalwyd 14 Chwefror 2019