Brwydr Fforest Teutoburg
Math o gyfrwng | brwydr |
---|---|
Dyddiad | Medi 0009 |
Rhan o | Early Imperial campaigns in Germania |
Lleoliad | Osnabrück |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr rhwng cynghrair o lwythau Almaenig a byddin Rufeinig yn y flwyddyn 9 OC oedd Brwydr Fforest Teutoburg (Almaeneg: Schlacht im Teutoburger Wald, Varusschlacht neu Hermannsschlacht). Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng 9 Medi ac 11 Medi, a'r canlyniad oedd i dair lleng Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus, (Legio XVII, Legio XVIII a Legio XIX), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius mab Segimer ("Hermann" mewn Almaeneg diweddar).
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers Brwydr Cannae yn erbyn Hannibal. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Suetonius, gyrrwyd yr ymerawdwr Augustus bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi Quintili Vare, legiones redde! ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")
Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd Afon Rhein. Yn 14 OC, yn fuan wedi i Tiberius olynu Augustus fel ymerawdwr, bu nai Tiberius, Germanicus, yn ymgyrchu yn y tiriogaethau hyn, a chawsant hyd i safle'r frwydr, Yn ôl yr hanesydd Tacitus, roedd yn olygfa enbyd, gyda phentyrrau o esgyrn a phenglogau wedi eu hoelio wrth goed. Erbyn 16 roedd Germanicus wedi llwyddo i adennill eryr dwy o'r tair lleng. Yn ôl Cassius Dio, llwyddodd Publius Gabinius i adennill y trydydd eryr oddi wrth lwyth y Chauci yn 41, yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Claudius, brawd Germanicus.
Yn y 19fed ganrif, yn enwedig yn yr ymladd yn erbyn Napoleon ar ddechrau'r ganrif, daeth y frwydr yn symbol bwysig i genedlaetholdeb Almaenaidd. Bu ansicrwydd ynghylch safle'r frwydr hyd nes i ymchwil archaeolegol ddiwedd yr 20g awgrymu i ran ohoni fod o gwmpas Bryn Kalkriese, rhan o Bramsche, i'r gogledd o Osnabrück. Adeiladwyd y Varusschlacht Museum i arddangos y darganfyddiadau.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Adrian Murdoch, Rome's Greatest Defeat: Massacre in the Teutoburg Forest, Sutton Publishing, Stroud, 2006, ISBN 0-7509-4015-8