Neidio i'r cynnwys

Breisach am Rhein

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Breisach)
Breisach am Rhein
Delwedd:Breisach 73.850.jpg, 02 Breisach am Rhein - Stephansmünster.jpg
Mathtref, European City, bwrdeistref trefol yr Almaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,793 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC 01:00, UTC 2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Saint-Louis, Pürgg-Trautenfels, Neuf-Brisach, Oświęcim Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBreisgau-Hochschwarzwald, Breisach am Rhein VVG Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd54.61 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr191 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaVogtsburg im Kaiserstuhl, Ihringen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.0289°N 7.58°E Edit this on Wikidata
Cod post79206 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn ardal Breisgau, yn rhanbarth Breisgau-Hochschwarzwald o dalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen yw Breisach am Rhein, neu yn fyr Breisach. Saif ar lan ddwyreiniol afon Rhein, sy'n ffurfio'r ffîn a Ffrainc yma. Mae tua hanner y ffordd rhwng Freiburg a Colmar, tua 20 km o bob un. Ar ochr arall yr afon, gyda phont yn eu cysylltu, mae Neuf-Brisach yn Alsace, Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 14,352.

Ceir olion hen sefydliad Celtaidd ar y bryn lle saif yr hen ddinas, ac mae'r enw ei hun o darddiad Celtaidd. Ar un adeg, pan fyddai llif yn yr afon, byddai'r bryn yn troi'n ynys. Dim ond wedi i Johann Gottfried Tulla sythu cwrs yr afon yn y 19g y daeth hyn i ben.

Dechreuwyd adeiladu Eglwys Gadeiriol Sant Steffan yn y 13g, ac yn y 16g roedd Breisach yn gaer bwysig yn perthyn i'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas yn 1793, yn y rhyfeoledd a ddilynodd Chwyldro Ffrainc, ac eto tua diwedd yr Ail Ryfel Byd wrth i'r Cyngheiriaid ymladd i groesi afon Rhein.

Mae cynhyrchu gwin yn bwysig yma, ac mae Badische Winzerkeller eG yn Breisach yn un o seleri gwin mwyaf Ewrop.