Boy George
Gwedd
Boy George | |
---|---|
Ganwyd | George Alan O'Dowd 14 Mehefin 1961 Eltham |
Label recordio | EMI, Epic Records, Virgin, Kobalt Label Services |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, troellwr disgiau, ffotograffydd, cynhyrchydd recordiau, canwr, cyfansoddwr, dylunydd ffasiwn, artist recordio |
Adnabyddus am | Arthur's Whisky |
Arddull | y don newydd, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth boblogaidd, roc meddal, disgo, cerddoriaeth ddawns |
Math o lais | countertenor |
Prif ddylanwad | Freddie Mercury |
Gwefan | http://www.boygeorgeuk.com |
Mae Boy George (ganed George Alan O'Dowd, 14 Mehefin 1961 yn Eltham, Llundain) yn ganwr a chyfansoddwr o Loegr, a oedd yn rhan o'r mudiad Rhamantaidd Newydd yn Lloegr a ddaeth i'r amlwg ar ddechrau'r 1980au. Rhoddodd lwyfan ryngwladol i amwysedd rhywiol yn sgîl llwyddiant y band Culture Club yn ystod y 1980au. Yn aml ystyrir ei gerddoriaeth yn soul glas-lygeidiog, sydd o dan ddylanwad rhythym a blues a reggae. Mae gan ei gerddoriaeth soul o'r 1990au a'r 2000au ddylanwadau roc-glam megis David Bowie ac Iggy Pop.