Bob Newhart
Bob Newhart | |
---|---|
Ffugenw | Bob Newhart |
Ganwyd | George Robert Newhart 5 Medi 1929 Oak Park |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2024 Los Angeles |
Label recordio | Warner Bros. Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, actor |
Arddull | deadpan, dychan, comedi arsylwadol |
Prif ddylanwad | Irwin Corey |
Priod | Ginnie Newhart |
Perthnasau | Paul Brittain, Bill Quinn |
Gwobr/au | Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Actor a digrifwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd George Robert "Bob" Newhart (5 Medi 1929 – 18 Gorffennaf 2024). Roedd yn adnabyddus am ei arddull di-wên a'r ffordd roedd yn siarad gydag atal dweud. Cychwynnodd fel digrifwr stand-up, cyn newid ei yrfa i actio ar deledu. Cafodd sawl gwobr, yn cynnwys tri Gwobr Grammy, Gwobr Emmy a Gwobr Golden Globe. Derbyniodd Wobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd yn 2002.
Fe'i ganwyd yn Oak Park, Illinois, yn fab i George David Newhart (1899–1986) a'i wraig Julia Pauline (née Burns; 1901–1991).
Daeth i amlygrwydd yn 1960 gyda'i record o ymsonau digrif The Button-Down Mind of Bob Newhart, a werthodd yn dda iawn a chyrraedd rhif un ar siart pop Billboard; mae'n parhau i fod yr 20fed albwm gomedi a werthodd fwyaf erioed.[1] Roedd yr albwm dilynol, The Button-Down Mind Strikes Back!, yn llwyddiant hefyd, ac ar un adeg y ddau albwm oedd rhif un a rhif dau yn siart Billboard.[2]
Cyflwynodd Newhart sioe adloniant ar NBC o'r enw The Bob Newhart Show (1961) cyn chwarae rhan y seicolegydd Robert Hartley rhwng 1972 a 1978 ac yna'r tafarnwr Dick Loudon ar gyfres Newhart o 1982 i 1990. Cafodd ddwy gomedi sefyllfa byrhoedlog yn y 1990au, Bob a George and leo. Actiodd Newhart mewn ffilmiau fel Catch-22 (1970), Cold Turkey (1971), In & Out (1997), ac Elf (2003). Lleisiodd Bernard yn y ffilmiau animeddiedig Disney The Rescuers (1977) a The Rescuers Down Under (1990). Chwaraeodd Professor Proton ar gomedi sefyllfa The Big Bang Theory rhwng 2013 a 2018, a derbyniodd ei Wobr Emmy Primetime cyntaf am y rhan.[3]
Bu farw yn 94 mlwydd oed, yn ei gartref yn Los Angeles, wedi sawl salwch byr.[4][5]
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Hell Is for Heroes (1962)
- Hot Millions (1968)
- On A Clear Day You Can See Forever (1970)
- Catch-22 (1970)
- Cold Turkey (1971)
- Little Miss Marker (1980)
- First Family (1980)
- In & Out (1997)
- Legally Blonde 2: Red, White & Blonde (2003)
- Elf (2003)
- The Librarian: Quest for the Spear (2004)
- The Librarian: Return to King Solomon's Mines (2006)
- The Librarian: Curse of the Judas Chalice (2008)
- Horrible Bosses (2011)
Teledu
[golygu | golygu cod]- The Big Bang Theory (2013-2018)
- The Librarians (2014)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Manilla, Ben. "'Button-Down Mind' Changed Modern Comedy", October 23, 2007.
- ↑ Newhart, Bob (2006). I Shouldn't Even Be Doing This!. New York: Hyperion. ISBN 1-4013-0246-7.
- ↑ Cidoni Lennox, Michael (16 Medi 2013). "Bob Newhart finally gets his Emmy Award". The Washington Times. Cyrchwyd 16 Medi 2013.
- ↑ Barnes, Mike (18 Gorffennaf 2024). "Bob Newhart, Dean of the Deadpan Delivery, Dies at 94". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dagan, Carmel (18 Gorffennaf 2024). "Bob Newhart, Comedy Icon, Dies at 94". Variety. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2024.