Blind Willie Johnson
Gwedd
Blind Willie Johnson | |
---|---|
Ffugenw | «Blind» Willie, «Blind» Texas Marlin, The Blind Pilgrim |
Ganwyd | 22 Ionawr 1897 Brenham, Pendleton |
Bu farw | 18 Medi 1945 Beaumont |
Label recordio | Columbia Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cerddor, canwr, gitarydd, pregethwr |
Arddull | y felan, cerddoriaeth yr efengyl |
Gwobr/au | Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy |
Canwr a gitarydd o'r Unol Daleithiau yn genre blŵs yr efengyl oedd Blind Willie Johnson (25 Ionawr 1897 – 18 Medi 1945).
Ganed ym mhentref Pendleton, ger Temple, Texas, i deulu o gyfrangnydwyr Affricanaidd-Americanaidd. Aeth yn ddall yn ystod ei fachgendod, o bosib wedi i'w lysfam daflu dŵr lleisw yn ei wyneb pan oedd yn 7 oed. Ers ei ieuenctid byddai'n canu caneuon yr efengyl, gyda'i gitâr, ar y stryd i ennill arian wrth iddo deithio i drefi a dinasoedd ar draws Texas.
Recordiodd Johnson 30 o ganeuon yn Dallas, Texas, ac yn Atlanta, Georgia, yn y cyfnod 1927–30.[1] Bu farw yn Beaumont, Texas, o falaria, yn 48 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Blind Willie Johnson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Hydref 2021.
Categorïau:
- Genedigaethau 1897
- Marwolaethau 1945
- Cantorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cantorion Affricanaidd-Americanaidd
- Cantorion y felan
- Cristnogion o'r Unol Daleithiau
- Gitaryddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Gitaryddion y felan
- Pobl ddigartref
- Pobl a aned yn Texas
- Pobl fu farw yn Texas
- Pobl fu farw o falaria