Bihar
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | vihara |
Prifddinas | Patna |
Poblogaeth | 103,804,637 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Nitish Kumar |
Cylchfa amser | UTC 05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 94,163 km² |
Yn ffinio gyda | Jharkhand, Gorllewin Bengal, Uttar Pradesh, Eastern Development Region, Central Development Region |
Cyfesurynnau | 25°N 85°E |
Cod post | 800XXX - 855XXX |
IN-BR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Bihar Legislative Assembly |
Corff deddfwriaethol | Bihar Legislature |
Pennaeth y wladwriaeth | Ram Nath Kovind |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Bihar |
Pennaeth y Llywodraeth | Nitish Kumar |
Mae Bihar (Hindi: बिहार, Urdu: بہار) yn dalaith yn nwyrain India. Y brifddinas yw Patna. Mae'r dalaith yn ffinio â Nepal yn y gogledd, â thalaith Uttar Pradesh yn y gorllewin, Jharkhand yn y de a Gorllewin Bengal yn y dwyrain. Hindi yw iaith swyddogol y dalaith, gydag Wrdw fel ail iaith swyddogol.
Ymhlith y mannau pwysig yn y dalaith mae Bodh Gaya, lle daeth y Buddha yn oleuedig. Yn Bihar y dechreuodd Mahatma Gandhi ei ymgyrch dros ryddid wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica.
Mae tir Bihar yn wastad a ffrwythlon, gyda nifer o afonydd, yn cynnwys Afon Ganga, yn llifo trwy'r dalaith. Er hynny, mae'n un o daleithiau lleiaf datblygedig India, gyda 42.6% yn byw oddi tan lefel tlodi, o'i gymharu a 26.1% yn India yn gyffredinol. Adlewyrchir hyn yn y ffaith fod Bihar yn dioddef lefel uchel o ddacoitaeth (banditri Indiaidd) gyda lladron pen ffordd yn ymosod ar fysus a hyd yn oed ar drenau o bryd i'w gilydd.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Kanishka Narayan, AS San Steffan dros Fro Morgannwg
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |