Betsi Cadwaladr
Betsi Cadwaladr | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1789 Llanycil |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1860 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nyrs |
Tad | Dafydd Cadwaladr |
Nyrs yn Rhyfel y Crimea oedd Elizabeth "Betsi" Cadwaladr (24 Mai 1789 – 17 Gorffennaf 1860). Newidiodd ei henw i Elizabeth Davies pan oedd yn gweithio yn Lerpwl am nad oedd y Saeson yn gallu ynganu ei henw. Enwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ei hôl.
Brodor o ardal Llanycil ger Y Bala oedd Betsi ac yn ferch i weinidog o'r enw Dafydd Cadwaladr (1752-1834).[1] Ym 1854, a hithau'n chwe-deg-pump oed, penderfynodd fynd yn nyrs i Ryfel y Crimea ar ôl darllen am ddioddefaint y milwyr yno. Roedd cannoedd o filwyr yn marw am nad oedd digon o nyrsys a meddygon ar gael.
Plentyndod ac ieuenctid
[golygu | golygu cod]Bu farw ei mam tua 1795-6, a bu o dan ofal chwaer hyn nas hoffai. Derbyniwyd hi ar aelwyd Simon Lloyd o Blas-yn-dre, perchen tyddyn ei thad, a thriniwyd hi'n garedig yno, ble dysgodd ddawnsio a chanu'r delyn, ond ffodd i Lerpwl yn bedair-ar-ddeg oed; glynodd yn dynn yno wrth yr achos Methodistaidd. Bu ar nifer o deithiau gyda theulu ei meistr gan ymweld ag amryw o wledydd ar y Cyfandir. Dychwelodd i'r Bala, ond ffodd drachefn, i Gaer, ac er mwyn osgoi priodi, dihangodd i Lundain, lle y bu'n aros yng nghartref John Jones, Glan-y-gors, Pentrefoelas. Honnai ei bod yn perthyn o bell iddo.
Crwydro'r byd a Shakespeare
[golygu | golygu cod]Ymwelodd a'r Bala yn 1820, a disgrifiodd y lle fel 'lle diflas'. Yna aeth yn forwyn i deulu capten llong, a bu'n crwydro'r byd am flynyddoedd, gan gyfarfod pob math o bobl (megis William Carey a'r esgob Heber). Actiodd rhannau o ddramâu Shakespeare ar fwrdd y llong a 'mynd drwy anturiaethau cynhyrfus'. Ymdyngodd yn erbyn priodi a chredir ei bod yn ferch wrywaidd braidd. Wedi dychwelyd i Loegr, collodd ei henillion, ac aeth drachefn i wasnaethu. Dywedodd Charles Kemble iddi actio rhannau allan o Hamlet yng nghegin ei meistr, a chynigiodd iddi le yn ei gwmni drama gyda thâl o £50 yr wythnos. Bu yng Ngogledd Cymru yn 1844-5, ac yn y De yn 1849, gan fynychu sasiynau hefyd. Gadawodd ei meistr lawer o arian iddi, ond collodd hwnnw drwy driciau cyfreithiol mae'n debyg. Wedi hynny aeth yn weinyddes yn Guy's Hospital, Llundain ac arweiniodd hynny iddi dderbyn cynnig i fynd i weini i'r Crimea yn 1854.
Cyrraedd Twrci
[golygu | golygu cod]Yng nghanol Rhyfel y Crimea (1854-1856), cyrhaeddodd Beti Cadwaladr ysbyty baracs Selimiye (a elwir hefyd yn Scutari, yn nhref Scutari), Twrci lle roedd Florence Nightingale yng ngofal y nyrsys. Dros gyfnod y rhyfel bu farw 6,000 o filwyr yn y baracs hwn. Gwrthododd Florence Nightingale gymorth Beti a'r nyrsys eraill a ddaeth drosodd, gan ddweud bod digon o nyrsys ar gael.
Roedd hi'n daith chwe niwrnod i'r milwyr clwyfedig ddod o'r Crimea, ac roedd Beti yn gweld hyn yn ffolineb llwyr. Fe benderfynodd fynd dros y môr i'r Crimea atynt, ac aeth â nyrsys eraill gyda hi i ysbyty yn Balaclava. Gweithiodd Beti a'r lleill yn galed mewn amgylchiadau anodd iawn. Yn wir o fewn blwyddyn yr oedd yn sâl ei hun, a bu'n rhaid iddi ddod adre at ei chwaer yn Llundain.
Bu farw yn Llundain ar 17 Gorffennaf 1860. Credir iddi gael ei chladdu yn Llundain, ble ceir cofeb iddi.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Autobiography of Elizabeth Davis, a Balaclava Nurse (dwy gyfrol, 1857): nodiadau o sgyrsiau gyda hi gan Jane Williams (Ysgafell))
- DAVIS, ELIZABETH (BETSI CADWALADR) (1789 - 1860), nyrs a theithwraig yn y Bywgraffiadur Cymreig