Neidio i'r cynnwys

Bernardo Atxaga

Oddi ar Wicipedia
Bernardo Atxaga
FfugenwBernardo Atxaga Edit this on Wikidata
LlaisBernardo Atxaga (aurkezpena).ogg Edit this on Wikidata
GanwydJosé Irazu Garmendia Edit this on Wikidata
27 Gorffennaf 1951 Edit this on Wikidata
Asteasu Edit this on Wikidata
Man preswylZalduondo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Barcelona
  • Deustuko Unibertsitatea Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, bardd, awdur plant, sgriptiwr, nofelydd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, traethawd Edit this on Wikidata
MudiadLlenyddiaeth Fasgeg Edit this on Wikidata
PriodAsun Garikano Edit this on Wikidata
Gwobr/auEuskadi award - Literature in Basque, Gwobr llenyddiaeth plant ifanc yn y Basgeg, Gwobr Gwlad y Basg - llenyddiaeth Sbaeneg, Beterriko Liburua Ohorezko Literatur Aipamena, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Kritika Saria euskarazko narratibari, Spanish Literature National Prize, Gwobr Ryngwladol y Nofel, Premio Ostana, Q130742756, Q130852613 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.atxaga.eus Edit this on Wikidata

Awdur a llenor o Wlad y Basg yw Bernardo Atxaga (ganwyd 27 Gorffennaf 1951) (defnyddia'r ffugenw Joseba Irazu Garmendia).

Ganwyd Atxaga yn Asteasu, Gipuzkoa, Gwlad y Basg. Derbyniodd ddiploma mewn economeg oddi wrth Brifysgol Bilbo, ac fe astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Barcelona. Gweithiodd fel economegydd, gwerthwr llyfrau, Athro ar yr iaith Fasgeg, cyhoeddwr, ac ysgrifennwr sgriptiau ar gyfer y radio hyd at 1980 pan ymroddodd ei hun yn llwyr i ysgrifennu.

Cyhoeddwyd ei waith cyntaf, sef antholeg am awduron Basgeg, yn 1972. Cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf, Ziutateaz ("Am y Ddinas"), yn 1976. Ymddagosodd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Etiopia ("Ethiopia"), yn 1978. Mae wedi ysgrifennu dramau, geiriau i ganeuon, nofelau a straeon byrion. Daeth ei lyfr o straeon byrion, Obabakoak ("Unigolion a phethau o Obaba"), a gyhoeddwyd yn 1988, â llawer o amlygrwydd a gwobrau iddo, gan gynnwys Gwobr Lenyddol Genedlaethol Sbaen. Mae'r llyfr wedi ei gyfieithu i fwy na 20 iaith.

Fel rheol, fe ysgrifenai Atxaga yn y Fasgeg a chyfieithu ei waith i'r Sbaeneg. Yn dilyn Obabakoak, mae nifer o'i waith wedi eu trosi i ieithoedd eraill.

Mae'n byw yn Reno, UDA ar hyn o bryd.

Nofelau

[golygu | golygu cod]
  • Obabakoak (1988)
  • Behi euskaldun baten memoriak ("Atgofion Buwch Basgaidd", Pamiela, 1991)
  • Gizona bere bakardadean ("Y Dyn Unig", Pamiela, 1993)
  • Zeru horiek ("Y Ddynes Unig", 1996)
  • Soinujolearen semea ("Mab Chwaraewr yr Acordian", 2003

Straeon byrion

[golygu | golygu cod]
  • Bi anai ("Dau Frawd", Erein, 1985)
  • Bi letter jaso nituen oso denbora gutxian ( "Dau Lythyr", Erein, 1985)
  • Henry Bengoa inventarium, Sugeak txoriak begiratzen dionean, Zeru horiek ("Dyfeisle Henry Bengoa. Pan Edrychith Neidr ar yr Adar, Y Ddynes Unig", Erein, 1995)
  • Sara izeneko gizona ("Y Dyn O'r Enw Sara", Pamiela, 1996)

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • Etiopia ("Ethiopia", Pott, 1978),
  • Nueva Etiopia ("Ethiopia Newydd", Detursa, 1997)

Llyfrau plant

[golygu | golygu cod]
  • Chuck Aranberri dentista baten etxean ("Chuck Aranberri Mewn Deintyddfa", Erein, 1985)
  • Nikolasaren abenturak, Ramuntxo detektibe ("Anturiaethau Nicholas, Ditactif Ramuntxo", Elkar 1979)
  • Siberiako ipuin eta kantak ("Staeon a Chaneuaon Siberia", Erein)
  • Jimmy Potxolo, Antonino apreta, Asto bat hipodromoan, Txitoen istorio, Flannery eta bere astakiloak (Elkar)
  • Xolak badu lehoien berri (Erein, 1995),
  • Xola eta basurdeak ("Xola a'r Baeddau Gwyllt", Erein 1996) - enillydd Gwobr Llenyddiath Basgeg i Blant yn 1997
  • Mundua eta Markoni ("Y Byd a Markoni", BBK fundazioa, 1995)

Gwaith eraill

[golygu | golygu cod]
  • Ziutateaz (1976)
  • Lekuak (2005)

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: