Neidio i'r cynnwys

Biwmares

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Beaumaris)
Biwmares
Mathtref Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaNiwbwrch Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,938 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Biwmares Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.263°N 4.094°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6076 Edit this on Wikidata
Cod postLL58 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Tref hanesyddol a chymuned yn ne-ddwyrain Ynys Môn ydy Biwmares (Saesneg: Beaumaris). Saif ar lan Afon Menai. Enw Ffrangeg Normanaidd sydd i'r dref a'i ystyr yw Morfa Deg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,892 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 748 (sef 39.5%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 448 yn ddi-waith, sef 45.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Cyfuniad o ddau air Ffrangeg Normanaidd yw'r enw a roddwyd ar y dref newydd gan y Saeson, sef Beaumarais (beau 'teg' marais 'morfa neu gorsdir'). Yr enghraifft gynharaf o'r enw Cymraeg am y dref yw 'Y Bew Mareis', a gofnodir ym Mrut y Tywysogion ar ddiwedd y 13g.[2] Mae ieithegwyr yn cydnabod fod hyn yn cynrychioli'r ynganiad Ffrangeg Normanaidd gwreiddiol ('Bô-maré' fyddai'r ynganiad Ffrangeg heddiw). Roedd beirdd yr Oesoedd Canol, fel Lewys Môn a Tudur Aled yn aml yn defnyddio'r ffurf 'Duwmares'.[3] Erbyn ganol y 18g cawn lenorion fel Lewis Morris yn defnyddio'r ffurfiau 'Bewmares' - ceir enghraifft o 'Bewmares' mewn cywydd i Thomas Bulkeley a ysgrifennodd yn 1753[4] - a 'Biwmares'. Erbyn heddiw mae Biwmares wedi'i hen sefydlu fel y sillafiad Cymraeg swyddogol. Ar lafar yn lleol ceir y ffurf 'Bliwmaras' neu 'Y Bliw'.

Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares, lle ail-gladdwyd y Dywysoges Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)
Môn ac Arfon: y dref, afon Menai ac ar y dde, Penmaenmawr

Sefydlwyd Biwmares ar safle hen dref Gymreig Llan-faes. Wedi concwest 1282-83 gan Edward I o Loegr, bu cychwyn nifer o brosiectau gan y brenin i roi diwedd ar annibyniaeth y Cymry. Un o'r prosiectau hyn oedd adeiladu Castell Biwmares, a adeiladwyd yn 1295, a'r dref ei hun. Nid oedd yn gastell hawdd i'w gipio gan fod modd derbyn bwyd ac arfau o'r môr. Mae'n enghraifft o gastell consentrig, sef o gastell o fewn castell.

Mae arch garreg Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, â'i delw arni i'w gweld yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas. Cafodd ei symud yno o fynachlog Llan-faes lle y'i claddwyd.

Symudwyd trigolion Llan-faes i bentref newydd yng ngorllewin yr ynys yn y "New Borough" a ddaeth i gael ei alw yn Niwbwrch yn Gymraeg. Am gyfnod wedi hyn, Saeson yn unig oedd yn cael trigo tu fewn i waliau'r dref. Gydag adeiladu'r castell daeth Biwmares i fod yn brif dref y Sir Fôn newydd a sefydlwyd yn sgîl y goresgyniad. Yn yr 17g agorwyd y Llys Sirol yno, a bu mewn defnydd hyd y 1970au.

Yn 1829 adeiladwyd carchar wedi ei gynllunio gan Joseph Hansom ym Miwmares. Yn ôl safonau'r dydd roedd y carchar hwn yn beth gyfforddus. Roedd toiled a golau nwy ym mhob cell, sydd yn hynod o fodern, gan ystyried fod carcharorion Strangeways ym Manceinion yn dal i ddefnyddio bwced yn y 1970au.

Dienyddwyd dau garcharor yn y carchar rhwng 1829 a'r 1870au pan gaewyd y carchar a'i newid i fod yn orsaf heddlu. Ym 1830 dienyddwyd William Owen am ladd ei wraig, ac yn ôl yr hanes aeth i'r crogbren dan gicio a strancio ac fe'i claddwyd y tu fewn i furiau'r carchar. Ni ddienyddwyd neb wedyn tan 1862 pan ddienyddwyd Richard Rowlands (Dic Rolant) am ladd ei dad yng nghyfraith. Bu cryn ddadlau am yr achos ac mae nifer o bobl hyd heddiw yn credu fod Rolant yn ddi-euog. Mae chwedl amdano sy'n dweud ei fod wedi addo ar y crogbren y byddai cloc yr eglwys, dros y ffordd i'r wal a oedd yn dal y crogbren, yn dweud yr amser anghywir.

Biwmares heddiw

[golygu | golygu cod]

Nid oes swyddogaeth weinyddol mor bwysig gan Fiwmares erbyn hyn - mae cyngor yr ynys wedi symud i Langefni. Er hyn, mae Biwmares yn dal i fod yn un o brif benteithiau twristiaeth Môn, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn gyrchfan ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas y mae beddrod y Dywysoges Siwan, ferch y brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn Fawr, i'w weld. Cafodd ei symud yno o adfeilion mynachlog Llan-faes.

Mae yna nifer o dai bwyta o safon, tafarndai clyd ac ambell i siop sy'n gwerthu gemwaith a hen bethau. Mae'r ysgol yn un o rai mwyaf y sir.

Mae'r A545 yn cysylltu'r dref â Phorthaethwy.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Biwmares (pob oed) (1,938)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Biwmares) (748)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Biwmares) (1105)
  
57%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Biwmares) (448)
  
45.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]
  • Lewis Roberts (1596-1640), masnachwr Cymreig ac awdur llyfrau ar economeg.
  • Richard Llwyd (1752-1835), "The Bard of Snowdon", bardd a hynafiaethydd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
  2. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon (Peniarth MS. 20) (Caerdydd, 1941), tud. 228b.
  3. Gweler er enghraifft: Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), I.17.
  4. Diddanwch Teuluaidd (Llundain, 1763), tud. 244.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.