Barbara Ward
Gwedd
Barbara Ward | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1914 Heworth |
Bu farw | 31 Mai 1981 o canser Lodsworth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, newyddiadurwr, llenor, gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Priod | Robert Jackson |
Gwobr/au | Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Albert, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, honorary doctorate from the University of Alberta |
Economegydd ac awdur Seisnig oedd Barbara Ward, y Farwnes Jackson, (23 Mai 1914 – 31 Mai 1981). Astudiodd economeg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac ym 1939 daeth yn olygydd ac yn ysgrifennwr i gylchgrawn The Economist. Priododd Robert Jackson ym 1950. Roedd Barbara Ward yn arbenigwraig ar dlodi byd-eang, datblygiad, a chadwraeth, ac yn gynghorydd i'r Fatican, i'r Cenhedloedd Unedig, ac i Fanc y Byd.[1] Roedd hi hefyd yn un o lywodraethwyr y BBC ac yn llywydd y International Institute for Environment and Development o 1973 hyd 1980.[2]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- The Rich Nations and the Poor Nations (1962)
- Spaceship Earth (1966)
- Only One Earth (gyda René Dubos, 1972)
- Progress for a Small Planet (1980)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Barbara Ward, Baroness Jackson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Barbara Ward, British economist, dies. The New York Times (1 Mehefin 1981). Adalwyd ar 15 Mai 2013.