Baner Rwanda
Mae gan faner genedlaethol Rwanda dri stribed llorweddol, yr uwch yn las golau ac yn lled hanner y faner, y canol yn felyn ac yn lled chwarter y faner, a'r chwarter gwaelod yn wyrdd. Lleolir haul euraidd gyda 24 o belydrau yn fly y stribed glas i symboleiddio goleuedigaeth ac undod yn erbyn anwybodaeth.[1] Mae diamedr yr haul yn 0.125 o led y faner.[2] Mae glas yn symboleiddio hapusrwydd ac heddwch, mae melyn yn cynrychioli datblygiad economaidd a chyfoeth mwynol y wlad, ac mae gwyrdd yn symboleiddio gobaith am ffyniant ar sail adnoddau naturiol Rwanda.[1][3][4] 2:3 yw cymhareb y faner hon.[3]
Mabwysiadwyd y faner bresennol ar 31 Rhagfyr 2001, ynghyd ag arfbais ac anthem genedlaethol newydd, i ddisodli'r hen symbolau cenedlaethol a ystyriwyd yn atgof o'r ymwahaniaeth ethnig a arweiniodd at hil-laddiad Rwanda ym 1994. Cafwyd gwared ar goch a du o'r faner, lliwiau sydd ganddynt gysylltiadau â gwaed a galar. Gobaith y llywodraeth yw i'r symbolau cenedlaethol newydd cynrychioli undod cenedlaethol a dyfodol llewyrchus i'r wlad.[4] Dewisiwyd y faner a'r anthem newydd gan gystadleuaeth genedlaethol,[5] ac enillodd yr arlunydd a pheiriannydd Alphonse Kirimobenecyo gyda'r dyluniad presennol.[2]
Cyn-faneri
[golygu | golygu cod]-
1961–2001
Enillodd Rwanda ei hannibyniaeth ar 1 Gorffennaf 1962, ond mae baner 1961–2001 yn dyddio o'r cyfnod pan oedd y wlad yn rhan o Rwanda-Wrwndi.
O 1961 hyd 2001 roedd gan Rwanda faner drilliw fertigol o'r lliwiau pan-Affricanaidd, coch, melyn a gwyrdd. Roedd lliwiau a dyluniad y faner hon yn unfath â baner Guinée, ac eithrio llythyren "R" ddu yn y stribed melyn i olygu "Rwanda".[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Flag of Rwanda. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 16 Mehefin 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Umutesi, Doreen (28 Ionawr 2011). Rwanda’s National symbols. The Sunday Times. Adalwyd ar 16 Mehefin 2013.
- ↑ 3.0 3.1 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 221.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 70.
- ↑ (Saesneg) Vesperini, Helen (31 Rhagfyr 2001). Rwanda unveils new flag and anthem. BBC. Adalwyd ar 16 Mehefin 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) National Symbols Archifwyd 2013-06-19 yn y Peiriant Wayback (Llywodraeth Rwanda)
- (Saesneg) Rwanda (Flags of the World)