Banc y Ddafad Ddu
Enghraifft o'r canlynol | banc, busnes |
---|---|
Daeth i ben | 1815 |
Cysylltir gyda | gyrru gwartheg |
Dechrau/Sefydlu | 1810 |
Cynnyrch | loans |
Pencadlys | Aberystwyth, Tregaron |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Aberystwyth |
Gwefan | http://www.everythingaberystwyth.co.uk/aberystwyth-fact-of-the-week/ |
Banc y Ddafad Ddu oedd enw poblogaidd Banc Aberystwyth a Thregaron Evans, Jones, Davies a'u cwmni (neu yn saesneg: Aberystwyth & Tregaron Bank). Fe'i sefydlwyd gan griw o borthmyn lleol Ceredigion ar ddiwedd y 18g. Mae'n enghraifft dda o'r banciau Cymreig lleol a fodolai ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19eg.
Roedd pobl yn ei alw yn Fanc y Ddafad Ddu oherwydd fod yr arian papur yn dangos llun o ddafad ddu arno. Roedd y maint a nifer y defaid a bortreadid yn dibynnu ar werth yr arian papur; dim ond oen ddu oedd ar y papurau chweugain (deg swllt) er enghraifft, tra bod un ddafad ar y papur punt a dwy ddafad fawr ar y papurau dwy bunt. Mae nifer enghreifftiau o'r nodau hyn ar gael rhwng 1810 ac 1814, y flwyddyn yr aeth y banc yn fethdalwr a thalu difidend o chwe swllt ag wyth geiniog yn y bunt.[1]
Ceir cerflun bach o Ddafad Ddu ar Dŷ Westminster ar Heol y Bont, Aberystwyth. Cred rhai mai dyma oedd lleoliad Banc y Ddafad Ddu, er, mewn gwirionedd, Band y Llong oedd yno.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Adeilad Banc y Llong, efo'r Ddafad Ddu arni
-
Motiff Dafad Ddu ar adeilad Banc y Llong, Heol y Bont, Aberystwyth
-
Plac ar Westminster House, Heol y Bont, Aberystwyth
-
Plac yr Hen Dŷ Banc, Heol y Bont, Aberystwyth
Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru
[golygu | golygu cod]- Banc y Llong, Aberystwyth (tua 1762)
- Banc yr Eidion Du (1799)
- Banc Gogledd a Deheudir Cymru (1836 - 1908)
- Cwmni Bancio Sir Forgannwg (1816)
- West of England and South Wales District Bank (1834)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyneth Lewis (Nadolig 1977). UN DDAFAD DDU - UN BUNT. Cymdeithas Bob Owen. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
- R. C. Jones, Arian: the story of money and banking in Wales (Abertawe, 1978).