Bae Caerdydd
Math | dosbarth, bae |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caerdydd |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd, Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.463°N 3.164°W |
- Mae Bae Caerdydd hefyd yn drawsenw am Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ardal yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, yw Bae Caerdydd. Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel 'Bae Caerdydd'. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw e'n Tiger Bay o hyd. Mae'r ardal yn boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu morglawdd ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu.
Y Cynllun Datblygu
[golygu | golygu cod]Yn 1987, sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd er mwyn adfywio'r dociau, De Caerdydd a Phenarth a oedd yn dirywio.
Ei datganiad oedd: To put Cardiff on the international map as a superlative maritime city which will stand comparison with any such city in the world, thereby enhancing the image and economic well-being of Cardiff and Wales as a whole.[1]
Gosodwyd rhai nodau ar gyfer yr ail datblygu:
- Datblygu a hybu ardal efo amgylchedd arbennig i bobl fyw, gweithio a hamddena ynddo.
- Ail-gysylltu'r CBD (canol busnes dref) efo'r bae.
- Dod a datblygiadau i greu gwaith a fydd yn adlewyrchu gobeithion a dyheadau'r cymunedau lleol.
- I wneud yn siŵr fod yr ardal yn cael ei weld yn ganolfan arbenigrwydd yn y maes ailddatblygiad trefol.
Ailddatblygwyd yr ardal efo chymysgedd canmoliaethus o dai, tir agored, masnachau, ardaloedd manwerthu, canolfeydd hamdden, a datblygiad diwydiannol. Canolbwynt y prosiect oedd y morglawdd i greu llyn dŵr croyw ac ardal ymyl dŵr fwyaf Ewrop.
Er mwyn cyrraedd yr holl nodau, gosodwyd targedau:
- Creu morglawdd ar draws y bae i holltir llanw.
- Ail gysylltu'r bae â'r ddinas efo rodfa gyda choed ar ei hyd.
- Creu 30,000 swydd newydd.
- Darparu 4 miliwn troedfedd sgwâr o adeiladau ar gyfer swyddfeydd.
- Darparu 5 miliwn troedfedd sgwâr o le diwydiannol.
- Darparu 6 mil o dai newydd.
- Darparu De Caerdydd gyda ffordd gyswllt i gysylltu'r ddwy ochor gyda'r M4.
Y 2000'au
[golygu | golygu cod]Daeth Corffolaeth datblygu Bae Caerdydd i ben yn y flwyddyn 2000. Cyngor Caerdydd sydd yn gyfrifol am y datblygiadau pellach.
Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Eglwys Norwyaidd yn y bae, ar un o geiodd yr hen ddociau, lle cafodd yr awdur Roald Dahl ei fedyddio.
-
Canolfan y Mileniwm
-
Canolfan y Mileniwm
-
To'r Cynulliad gyda'r nos
-
Yr eglwys Norwyaidd
-
Roald Dahl Plass
-
Y cynulliad