Arglwyddiaeth Clifford
Enghraifft o'r canlynol | arglwyddiaeth y Mers |
---|
Un o arglwyddiaethau'r Mers ar ochr Seisnig y ffin rhwng Cymru a Lloegr oedd Arglwyddiaeth Clifford. Castell Clifford, ger pentref Clifford yn Swydd Henffordd heddiw, oedd ei ganolfan.
Gorweddai'r arglwyddiaeth yng ngorllewin y Swydd Henffordd bresennol, yn Nyffryn Gwy ar y ffin â Chymru. I'r dwyrain ffiniai ar Iarllaeth Henffordd ac i'r gogledd ag Arglwyddiaeth Huntington, yn Lloegr. I'r gorllewin a'r de, ffiniai ar diriogaethau Cymreig (ond yn nwylo arglwyddi Normanaidd y Mers am y rhan fwyaf o'r cyfnod) Elfael, arglwyddiaeth Y Gelli Gandryll, ac Ewias. Er na fu'n arglwyddiaeth fawr, roedd ei lleoliad yn amddiffyn y mynediad i lawr Dyffryn Gwy i gyfeiriad Henffordd yn ei gwneud yn bywsig yn strategol.
Codwyd castell mwnt a beili Castell Clifford yn 1070 gan William FitzOsbern i amddiffyn y rhyd strategol ar Afon Gwy. Bwriadwyd sefydlu tre newydd yno, ond ni wireddwyd y cynllun. Codwyd castell pur sylweddol o gerrig ar y safle yn nes ymlaen. Daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Clifford.
Bu'r arglwyddiaeth ym meddiant sawl teulu yn ystod ei hanes. Erbyn y 1230au roedd ym meddiant Walter III de Clifford, wŷr Walter Fitz Richard. Roedd y Walter hwn - y cyfeirir ato fel Gwallter gan y Cymry - wedi ymgynghreirio â Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Chymru, trwy briodas ag un o'i ferched.
Gyda'r "Deddfau Uno" ymgorfforwyd Clifford yn Swydd Henffordd.