Argaeau Dyffryn Elan
Math | cronfa ddŵr, grŵp o lynnoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Cwm Elan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2722°N 3.6889°W |
Cadwyn o gronfeydd a wnaed gan ddyn yw Argaeau Dyffryn Elan, i gyflenwi dŵr i Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Codwyd waliau carreg yr argaeon ar afonydd Elan a Chlaerwen. Gwnaed y gwaith gan Birmingham Corporation Water Department er mwyn cyflenwi dŵr glân i ddinasyddion yr ardaloedd hynny. Mae Argaeau Dyffryn Elan yn gadwyn o 5 llyn: Claerwen, Craig-goch, Pen-y-garreg, Garreg-ddu, a Caban-coch.[1]
Llifa'r dŵr drwy bibell, drwy rym disgyrchiant i Argae Frankley ym Mirmingham dros Ddyrfrbont Elan, a hynny heb yr angen am bwmp na pheiriant o unrhyw fath. Mae'r gwahaniaeth uchder rhwng dau ben y beipen yn 52m, a'r beipen ei hun yn mesur 73 milltir. Mae graddiant y disgyniad, felly'n 1:2300 gyda chyflymder y dŵr yn llai na 2 miles per hour (3.2 km/h), ac yn cymryd rhwng dau ddiwrnod a hanner a thridiau i gyrraedd Birmingham.[2] Mae'r draphont, a godwyd rhwng 1896 a 1906, yn croesi sawl dyffryn, ac yn cynnwys sawl twnnel bric, pibellau ac adeiladau.[3]
Yr argaeau
[golygu | golygu cod]Yn Gymraeg, gellir gelwir y dŵr o fewn llyn a wnaed gan bobl yn 'gronfa' a'r wal sy'n ei ddal yn ôl yn argae. Ceir 4 prif argae a 4 is-argae. Codwyd y 4 prif argae rhwng 1893 ac 1904 yn Nyffryn Elan a rhwng 1946 ac 1952 yng Nghlaerwen; mae eu cynhwyedd potensial yn 100,000 megalitr. Y 4 prif gronfa yw:[4]
- Caban-coch (a Garreg-ddu) – 35,530 megalitr o ddŵr
- Pen-y-garreg – 6,055 megalitr
- Craig Goch – 9,220 megalitr
- Claerwen – 48,694 megalitr.
Ceir hefyd sawl is-gronfa:
- Cronfa Dôl-y-mynach – un o'r dair ar Afon Claerwen.
- Cronfa Nant-y-Gro – cronfa fechan a adeiladwyd yn gynnar yn y prosiect; fe'i defnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd gan Syr Barnes Wallis a'i brofion ar gyfer y bouncing bom.
- Cronfa'r Garreg-ddu – er ei bod yn edrych fel traphont, argae tanddwr ydyw mewn gwirionedd. Ei phwrpas yw sicrhau lefel uchel o ddŵr yng Nghronfa'r Garreg-ddu er mwyn i ddŵr lifo Tŵr y Foel ac oddi yno i Gronfa Frankley, Birmingham.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Powys Digital History Project: Elan Valley Reservoirs". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
- ↑ "Powys Digital History Project: Elan Valley Dams". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
- ↑ "Valve house hidden in the woods". www.geograph.org.uk. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2012.
- ↑ Elan dams: Specifications Archifwyd 2013-02-20 yn y Peiriant Wayback at Elan Valley Trust official website. Accessed 27 Tachwedd 2013