Arfbeisiau Cymru
Gwedd
Mae'r erthygl hon yn rhestru rhai o arfbeisiau hanesyddol Cymru. Am restr o faneri Cymreig, gweler yma.
Ceir dau fath o arfbais, arfbais personol yr unigolyn (arglwydd neu uchelwr fel arfer) ac arfbais a oedd yn perthyn i deyrnas neu ran o'r wlad.
Arfbeisiau personol Tywysogion Cymru
[golygu | golygu cod]Baner | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
---|---|---|---|
1267-83, 1400au | Arfbais bersonol, gwreiddiol Tywysog Cymru. Daeth yn faner Tywysogaeth Cymru yn nheyrnasiad Llywelyn Fawr. | Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill. | |
c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282 | Arfbais bersonol Llywelyn ap Gruffudd | Tri llew coch ar drithroed ar faes llwyd. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mabwysiadwyd yr arfbais gan dîm pêl-droed Lloegr! | |
13g | Baner Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn II. | Y llewod yn sefyll ar drithroed (passant). | |
14eg - 15g - | Arfbais Glyndŵr | Arfau Gwynedd: llewod yn sefyll ar undroed (regardant), gydag arfau Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr | |
1100 - 1170 | Arfbais Owain Gwynedd (priodolwyd) | Tri eryr aur ar faes gwyrdd. Roedd yr arfbais hon hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgynyddion Owain sef y teulu Anwyl o Dywyn. | |
c.1055–1137 | Arfbais bersonol Gruffudd ap Cynan. (priodolwyd, heb ffynhonnell) | Tri llew llwyd ar drithroed (passant), ar faes coch. |
Arfbeisiau Teyrnasoedd Cymru
[golygu | golygu cod]Baner | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
---|---|---|---|
c. 1200 - heddiw | Arfbais Teyrnas Gwynedd ac arfbais draddodiadol Aberffraw a Llywelyn Fawr. | Llewod coch drithroed (passant) yn y corneli chwith uchaf a de gwaelod ar faes melyn gyda'r lliwiau wedi eu cyfnewid yn y corneli eraill. | |
? | Teyrnas Powys ac yn ddiweddarach: Powys Wenwynwyn. Yn draddodiadol, hon oedd arfbais Llŷs Mathrafal. | Llew coch tywyll yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir melyn. | |
1191-1236 | Arfbais Powys Fadog sef y rhan ogleddol o Deyrnas Powys; yn wreiddiol: arfbais Madog ap Gruffydd Maelor. Argent, a lion Sable armed and langed Gules. | Llew du yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir gwyn. | |
? | Cysylltir yr arfbais hon gyda Theyrnas Deheubarth. | Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant), ar gefndir coch, gydag ymyl pigog, melyn. | |
? | Arfbais Teyrnas Gwent | Hanner chwith glas, hanner dde yn ddu, gyda thair Fleurs-de-Lis aur. | |
975 - 1010 | Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren gan gynnwys: Maelienydd, Elfael, Ceri, Gwerthrynion, Cwmwd Deuddwr a Buellt). Arfbais Elystan Glodrydd, sylfaenydd 5ed Llinach Frenhinol Cymru. | Gules, a lion rampant regardant Or. | |
1010 -> | Teyrnas Rhwng Gwy a Hafren. Arfbais Cadwgan ap Elystan Glodrydd | Tri mochyn gwyllt | |
? | Arfbais Teyrnas Ceredigion | Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant) yn edrych yn ôl, ar gefndir gwyn. | |
o 1045 ymlaen | Arfbais Teyrnas Morgannwg a'u sefydlydd, sef Iestyn ap Gwrgant. | Tri chevronels argent gwyn ar faes coch. | |
hyd at 920 | Arfbais Teyrnas Dyfed | Llew aur yn sefyll ar undroed (regardant), gyda phedwar rhosyn aur o'i ddeutu, ar gefndir glas. |
Pymtheg Llwyth Gwynedd
[golygu | golygu cod]Mae'r arfbeisiau canlynol i'w gweld mewn ystafell arbennig yn Erddig wedi'u creu ar gyfer perchennog y tŷ, Philip Yorke (1743 - 1804) a oedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfr ar arfbeisiau Cymru.[1][2]
-
Nefydd Hardd o Gaernarfon, Arglwydd Nant Conwy
Unigolion eraill
[golygu | golygu cod]Baner | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
---|---|---|---|
c. 1320 - 1380 | Arfbais Ifor ap Llywelyn (Ifor Hael) | Tri tharw du ar gefndir gwyn | |
? | Arglwyddes Crogen | Llew du ar ei sefyll ar gefndir gwyn | |
6g | Arfbais Brochwel Ysgithrog, Teyrnas Powys | Tri pen ceffyl arian ar gefndir du. | |
diwedd y 12ed ganrif a dechrau'r 13 ganrif | Arfau Gwenwynwyn ab Owain | Pawen goch ar gefndir melyn. | |
dechrau'r 12ed ganrif | Arfau Iarll Penfro | Tri llew gwyn ar untroed ar gefndir glas (chwith) a coch (dde). | |
1160 – 1191 | Arfbais Gruffudd Maelor I | Llew du ar gefndir gwyn. | |
1802 – 1896 | Arfbais Arglwyddes Llanofer | Gweler yma am ddisgrifiad llawn. | |
1820 – 9 Mai 1885 | Arfbais Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig | Gweler yma am ddisgrifiad llawn. | |
? | Arfau Hywel ap Meurig, Arglwydd Naddau | Llew glas ar gefndir melyn | |
12g? | Arfau Hywel o Gaerleon (Hywel ap Iorwerth g. 1130?) |
Tri chastell gwyn ar gefndir coch | |
? | Arfau Llywelyn ap Gwilym | 5 lleuad ar groes melyn ar gefndir glas a choch | |
ganwyd tua 1018 | Arfau Llewelyn Eurdorchog (Aurdorchog) ap COEL Arglwydd Iâl | Llew melyn ar ei sefyll ar gefndir glas | |
13g | Arfau Llywelyn ap Ifor, Arglwydd Sanclêr a Gwynfe; tad Ifor Hael | Draig ddu ar ei sefyll ar gefndir gwinau |
Yr Eglwys yng Nghymru
[golygu | golygu cod]-
Y cwbwl gyda'i gilydd
Siroedd
[golygu | golygu cod]Arfbais | Dyddiad | Defnydd | Disgrifiad |
---|---|---|---|
Mawrth 2014 | Baner Sir Fôn | Tri llew aur ar ddwy goes, ar gefndir coch gyda chevronel aur | |
2012 | Tarian Sir Gaernarfon | Tair eryr aur mewn rhes ar gefndir gwyrdd. | |
Heb ei chofrestru | Tarian Ceredigion | Llew aur ar ddwy goes, ar gefndir du. | |
2013 | Tarian De Morgannwg | Tair chevronel wen ar gefndir coch | |
? | Tarian Sir Forgannwg (traddodiadol) | Tair chevron goch ar gefndir melyn a thair rhosyn coch. | |
2015 | Tarian Sir Feirionnydd | Tair gafr arian ar ddwy goes, gyda haul aur ar gefndir glas. | |
2011 | Tarian Sir Fynwy | Tair Fleur-de-Lis aur ar gefndir glas a du. | |
Heb ei chofrestru | Tarian Sir Drefaldwyn | Tri phen mul arian ar gefndir du. | |
2015 | Tarian Sir y Fflint | Croes ddu arf gefndir arian gyda phedwar Brân Goesgoch, un ym mhob cornel. | |
1988 | Tarian Sir Benfro | Croes aur ar gefndir glas, gyda rhosyn Tuduraidd coch a gwyn yn y canol. | |
- | Tarian Sir Faesyfed | Pen baedd ar gefndir glas a melyn (streips llorweddol). | |
- | Tarian Sir Clwyd | Llew du ar ddwy goes, gyda dwy streipen donnog uwch ei ben a dwy frân uwch y rhain. | |
- | Tarian Ddir Ddinbych | Llew du ar ddwy goes; uwch ei ben ceir dwy streipen las a hanner | |
- | Tarian Sir Gaerfyrddin | Dau lew melyn ar gefndir coch, gyferbyn â'i gilydd a dwy ddraig goch ar gefndir melyn gyferbyn â'i gilydd. | |
- | Tarian Sir Dyfed | Tri llew melyn ym mhob cornel ar gefndiroedd gwahanol: du, coch a glas. | |
hyd at 1996 | Tarian Gwynedd | Gafr wen ar gefndir glas ac uwch ei phen, ceir dau lew yn sefyll ac un yn y canol ar ddwy goes. |
Arall
[golygu | golygu cod]-
Prifysgol Cymru
-
Arfbais a grewyd yn ddiweddar i goffáu Dewi Sant
Arfbeisiau Saeson a Normaniaid yng Nghymru
[golygu | golygu cod]-
Hugh le Despenser (yr hynaf)
-
Gilbert de Clare
-
teulu Brewys (de Braose), Arglwydd Bramber a Gŵyr
-
Barwn 1af Grey o Wilton
-
Ail Farwn Grey o Wilton
-
Hugh de Kevelioc, 5ed Iarll Caer
-
Bernard de Newmarket, Arglwydd Brycheiniog
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr baneri'r Alban
- Rhestr baneri Cymru
- Arfbeisiau Esgobaethau yr Eglwys yng Nghymru
- Bathodyn Brenhinol Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Arfbeisiau Gregynog (Plas Gregynog)