Andreas Libavius
Andreas Libavius | |
---|---|
Ganwyd | 1555 Halle (Saale) |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1616 Coburg |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cemegydd, academydd, meddyg |
Cyflogwr |
Alcemydd, meddyg ac ysgolfeistr o'r Almaen oedd Andreas Libavius (c. 1555 – 25 Gorffennaf 1616) oedd yn un o'r prif wrthwynebwyr i syniadau Paracelsus. Mae'n nodedig hefyd am gyhoeddi'r gwerslyfr cyntaf ar bwnc cemeg, Alchemia (1597).
Ganwyd Andreas Libau yn Halle an der Saale, Archesgobaeth Magdeburg, yn fab i wëydd tlawd. Astudiodd ym Mhrifysgol Wittenberg cyn iddo dderbyn doethuriaeth athronyddol o Brifysgol Jena yn 1581. Enillodd ddoethuriaeth feddygol o Brifysgol Basel, a dychwelodd i Jena i addysgu hanes a barddoniaeth yn y cyfnod 1586 91. Gweithiodd fel meddyg y dref ac ysgolfeistr yn Gymnasium Rothenburg, ac yn 1605 sefydlodd y Gymnasium Casimirianum yn Coburg.[1]
Datblygwyd athroniaeth unigryw ganddo, drwy gyfuno elfennau o Ramiaeth, Aristoteliaeth a dyneiddiaeth y Dadeni â'r traddodiad Lwtheraidd, yn bennaf dysgeidiaeth Philip Melanchthon. Bu'n lladd yn aml ar syniadau'r Paracelsiaid, gan gynnwys Oswald Croll, ac yn dilorni'r cyfuniad o Hermetigiaeth a Chalfiniaeth a ddatblygwyd gan y Rhosgroesogion cynnar. Er iddo gredu y gellir trawsnewid metelau cyffredin yn aur, ymwrthododd Libavius â thraddodiad yr alcemyddion drwy arddel cyhoeddi arferion a syniadau cemegol yn hytrach na chyfriniaeth a chêl-wybodaeth. Dadleuodd o blaid meddygaeth gemegol fel maes ategol i'r hen materica medica. Yn ei waith Alchemia mae'r ymdrech gyntaf yn Ewrop i ymdrin â gwyddor cemegion mewn modd systematig a dadansoddol, a'r disgrifiad cyntaf o labordy cemegol.[2]
Ymhlith ei ddarganfyddiadau mae dulliau o baratoi amoniwm sylffad, antimoni sylffid, asid hydroclorig, a thun tetraclorid.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Andreas Libavius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Ebrill 2019.
- ↑ William E. Burns, The Scientific Revolution: An Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2001), tt. 169–70.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Bruce T. Moran, Andreas Libavius and the Transformation of Alchemy: Separating Chemical Cultures with Polemical Fire (Sagamore Beach, Massachusetts: Science History Publications, 2007).