Alun Lewis
Gwedd
Alun Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1915 Aberdâr |
Bu farw | 5 Mawrth 1944 Myanmar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Gwobr/au | Gwobr John Llewellyn Rhys |
Bardd Eingl-Gymreig o Aberdâr oedd Alun Lewis (1 Gorffennaf 1915 – 5 Mawrth 1944). Roedd yn frodor o Gwmaman ger Aberdâr. Yn ôl rhai, dyma fardd gorau'r Ail Ryfel Byd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ymunodd â'r fyddin yn 1940 er ei fod yn heddychwr. Priododd Gwenno Ellis, athrawes, yn 1941.
Athro oedd ei dad, Thomas John Lewis, a daeth yntau'n athro yn Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam, am ychydig. Ond i lawr yn y lofa y gweithiai ei dri brawd.
Ac yntau'n ddim ond 28 mlwydd oed, fe'i lladdwyd gan ei ddrull ei hun ger Arakan yn Byrma ar 5 Mawrth 1944 a chafodd ei gladdu ym mynwent rhyfel Taukyan.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Last Inspection (storiau) (1944)
- Raider's Dawn and other poems (1944)
- Ha! Ha! Among the Trumpets (1945)
- In the Green Tree (llythyrau) (1948)