Alfred Mond
Alfred Mond | |
---|---|
Ganwyd | 23 Hydref 1868 Farnworth |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1930 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes, diwydiannwr, ariannwr, seionydd |
Swydd | Prif Gomisiynydd Gweithfeydd, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol |
Tad | Ludwig Mond |
Mam | Frida Mond |
Priod | Violet Mond |
Plant | Henry Mond, Ail Farwn Melchett, Eva Isaacs, Mary Angela Mond, Rosalind Jean Nora Mond |
Gwobr/au | doctor honoris causa from the University of Paris |
Roedd Alfred Moritz Mond, Barwn 1af Melchett PC, FRS (23 Hydref 1868 – 27 Rhagfyr 1930) yn ddiwydiannwr, ariannwr a gwleidydd Prydeinig.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Cafodd Mond ei eni yn Farnworth, Widnes, Swydd Gaerhirfryn yn fab ieuengaf i Ludwig Mond, fferyllydd a diwydiannwr o dras Iddewig a oedd wedi ymfudo o'r Almaen a Frieda, née Lowenthal e'i wraig.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Cheltenham ac yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle bu'n astudio gwyddoniaeth ond methodd ennill gradd.
Aeth i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin a chafodd ei alw i'r bar gan y Deml Fewnol ym 1894.
Gyrfa busnes
[golygu | golygu cod]Wedi gorffen ei gyfnod yn y coleg ymunodd a busnes ei dad, Brunner Mond & Company fel cyfarwyddwr, gan ddod yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni yn ddiweddarach. Bu hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr ar un o gwmniau eraill ei dad y Mond Nickel Company. Bu hefyd yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau eraill gan gynnwys International Nickel Corporation of Canada, Banc Westminster a'r Industrial Finance Investment Corporation. Daeth ei lwyddiant busnes mawr ym 1926 pan lwyddodd i uno pedwar cwmni cemegol i ffurfio Imperial Chemical Industries (ICI) un o gorfforaethau diwydiannol mwyaf yn y byd ar y pryd. Mond oedd ei gadeirydd cyntaf.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Bu Mond hefyd yn ymwneud â gwleidyddiaeth bu'n eistedd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Dinas Caer 1906-1910, ar gyfer Abertawe 1910-1918 ac ar gyfer Gorllewin Abertawe o 1918 i 1923. Gwasanaethodd yn llywodraeth glymblaid David Lloyd George fel Brif Comisiynydd y Gwaith 1916-1921 ac fel Gweinidog Iechyd (gyda sedd yn y cabinet) o 1921 i 1922. Bu'n cynrychioli Gaerfyrddin 1924-1928 fel Rhyddfrydwr i gychwyn ond gan groesi at y Ceidwadwyr ar ôl anghytuno gyda David Lloyd George dros gynlluniau dadleuol y cyn Brif Weinidog i genedlaetholi tir amaethyddol.[2]
Cafodd Mond ei urddo'n Farwnig ym 1910, a chafodd ei dderbyn i'r Cyfrin Gyngor ym 1913. Ym 1928 cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Melchett, o Landford yn Swydd Southampton.
Seioniaeth
[golygu | golygu cod]Ymwelodd Mond a Palestina am y tro cyntaf yn 1921 gyda Chaim Weizmann ac ar ôl hynny daeth yn Seionydd brwdfrydig, gan gyfrannu arian i'r Jewish Colonization Corporation for Palestine a gan ysgrifennu yn helaeth ar gyfer cyhoeddiadau Seionaidd. Daeth yn Llywydd y Sefydliad Seionaidd Prydain a gwneud cyfraniadau ariannol i achosion Seionaidd. Ef oedd Llywydd cyntaf y Technion ym 1925. Sefydlodd Melchett dref Tel-Mond, sydd yn awr yn Israel. Mae gan Tel Aviv a nifer o ddinasoedd eraill yn Israel strydoedd o'r enw Stryd Melchett er cof amdano.[3]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Etholwyd Mond yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ym 1928 a derbyniodd nifer o raddau er anrhydedd gan Rydychen, Paris a phrifysgolion eraill.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ym 1894 priododd Mond Violet Goetze a bu iddynt un mab, Henry Ludwig, a thair merch. Bu farw Mond yn ei gartref yn Llundain yn 1930
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Industry and Politics (1927)
Imperial Economic Unity (1930)
Cyfeiriadau llenyddol
[golygu | golygu cod]Mae Mond yn cael ei grybwyll yng Ngherdd 1920 gerdd TS Eliot A Cooking Egg
Credir mai Mond yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gymeriad Mustapha Mond, un o'r deg rheolwr y byd yn nofel Aldous Huxley Brave New World (1932).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Biography of MP; 1st Baron Melchett Alfred Mond Liberal Democrat History [1] Archifwyd 2014-08-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ The Land Question in England, trawsysgrif o ddarlith gan Mond 1913 [2][dolen farw] adalwyd 24 Rhagfyr 2014
- ↑ The Blackwell Dictionary of Judaica; Gol: Dan Cohn-Sherbok ISBN 9780631187288
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Yerburgh |
Aelod Seneddol dros Dinas Caer 1906 – 1910 |
Olynydd: Robert Yerburgh |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: George Newnes |
Aelod Seneddol dros Abertawe 1910 – 1918 |
Olynydd: dileu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Gorllewin Abertawe 1918 – 1923 |
Olynydd: Howel Walter Samuel |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Ellis Jones Ellis-Griffith |
Aelod Seneddol dros Caerfyrddin 1924 – 1928 |
Olynydd: William Nathaniel Jones |