Neidio i'r cynnwys

Agnosticiaeth

Oddi ar Wicipedia
Agnosticiaeth
Enghraifft o'r canlynolsafbwynt, doxastic attitude, ansicrwydd, religious identity Edit this on Wikidata
Mathcredo Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmetaffiseg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Agnostigiaeth yw'r cysyniad nad oes modd gwybod os ydy Duw yn bodoli neu beidio. Mae’r gair 'agnosticiaeth' yn dod o'r gair Saesneg agnosticism; gair gwneud o'r gair Groeg agnosia = 'anwybodaeth', o'r gwreiddyn gnosis neu gnostikos sef 'gwybodaeth'.

Er bod sawl unigolyn wedi dal y safbwynt hwnnw trwy hanes, ymddengys mai'r athronydd Thomas Huxley a fathodd yr enw (agnosticism) yn 1869 i ddisgrifio ei safbwynt. Roedd y rhai o amgylch Huxley naill ai'n bendant bod Duw yn bodoli neu yn bendant bod Duw ddim yn bodoli ond roedd Huxley yn ymresymu bod y wybodaeth hon yn absennol.
Cafodd yr enw ei fabywsiadu gan rhesymolwyr ail hanner y 19g er mwyn diffinio eu safle rhwng credu mewn Duw ar y naill law ac anffyddiaeth, sy'n gwrthod Duw yn gyfangwbl, ar y llaw arall.

Mae tuedd i agnostig fod yn wybodus iawn mewn materion crefyddol, ac yn aml iawn, fe fyddynt yn cael eu cyhuddo o "hanner credu" mewn Duw a’u bod yn amharod i ymrwymo at eu cred. Fe fydd yr agnostig yn gwadu’r cyhuddiad hwn gan honni nad yw'n bosibl gwybod amdano hyd yn oed os yw'n bodoli. Yn fwy diweddar mae'r term "agnostig" yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr llai diffiniedig i gynnwys barn pobl sydd ddim yn gwybod am y byd ysbrydol neu ddim yn poeni amdano o gwbl.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]