Afon Irtysh
Math | afon drawsffiniol, afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Rwsia |
Cyfesurynnau | 47.414528°N 90.215544°E, 61.0806°N 68.8306°E |
Tarddiad | Mongolian Altai |
Aber | Afon Ob |
Llednentydd | Afon Ishim, Vagay, Afon Tobol, Afon Konda, Afon Osha, Afon Ulba, Afon Uba, Afon Bukhtarma, Afon Tara, Afon Uy, Afon Om, Turtas, Demyanka, Afon Shish, Tuy, Afon Narym, Qaljır, Afon Kurchum, Burqin He, Afon Kaba, Bashkurka, Koksha, Imsysa, Inzhura, Takmys, Sogom, Q756422, Polovinka, Karakunduska, Syrtsa, Churbash, Bartak, Kaysy, Bolshoy Ingair, Kunduska, Sargis, Tentis, Bolshaya Supra, Bicha, Kilik, Q756937, Q757092, Katanguyka, Byzovka, Aremzyanka, Ananyevka, Pelina, Q757283, Stepanovka, Yarka, Ibeyka, Zamarayka, Sargatka, Bugumbas, Bolshaya Taychinka, Afon Chagan (tributary of Irtysh), Noska, Q4055098, Avlukha, Angaiska, Arkarka, Artynka, Q4091821, Bolshoy Kilik, Imis, Q4211955, Kip, Q4222624, Kunduk, Q4299699, Nekhlyudikha, Nyukhalovka, Q4331913, Q4365397, Podchugasnaya, Staraya Syrtsa, Tayma, Taltymka, Tozepka, Tugochayka, Tugutka, Ubaergan, Urash, Usolka, Q4506681, Chandysheva, Afon Shar, Q4518284, Zayka, Rogalikha, Kamyshlovka, Ava, Ava, Bolshaya, Tevriz, Tevriz, Usa, Startisa |
Dalgylch | 1,643,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 4,248 cilometr |
Arllwysiad | 3,000 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Zaysan |
Afon fawr yn Siberia, Rwsia, prif lednant Afon Ob, yw Afon Irtysh (Rwseg: Иртыш ; Casaceg: Ertis / Эртiс ; Tatareg: Иртеш / İrteş ; Tsieineeg: Erqisi / 额尔齐斯河). Ystyr ei enw yw "Afon Wen". Prif lednant yr Irtysh yw Afon Tobol. Mae basn afonol Ob-Irtysh yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn Asia, sy'n cynnwys Gwastadedd Gorllewin Siberia a Mynyddoedd Altai. Ei hyd yw 4,248 km (2,640 milltir).
O'i phrif darddle yn y Kara-Irtysh (Irtysh Du) ym mynyddoedd Altai Mongolia, yn nhalaith Xinjiang, Gweriniaeth Pobl Tsieina, llifa afon Irtysh i Rwsia ar gwrs gogledd-orllewinol trwy Llyn Zaysan, Casachstan ac yn ei blaen hyd nes mae'n cyrraedd ei chymer ag afon Ob ger Khanty-Mansiysk (Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi) yng ngorllewin Siberia.
Mae'r afon yn cael ei defnyddio gan longau a chychod o'r gwanwyn hyd hydref ond mae'n rhewi drosodd yn y gaeaf.
Y prif ddinasoedd ar lan afon Irtysh, o'i tharddle i'w chymer, yw:
- Casachstan: Öskemen/Ust-Kamenogorsk, Semipalatinsk, Pavlodar.
- Rwsia: Omsk, Tara, Tobolsk, Khanty-Mansiysk.