Afon Dulas (Ceredigion)
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1083°N 4.0742°W |
Aber | Afon Teifi |
- Am yr Afon Dulas yng Nghonwy, gweler Afon Dulas (Rhos).
Un o ledneintiau Afon Teifi yng Ngheredigion ydy Afon Dulas.
Mae'n tarddu ger pentref Llangybi, lle daw sawl llednant i lawr o'r mynyddoedd o amgylch fferm Penblodeuyn a Gelligarneddau, cyfunir rhain i greu Afon Dulas ger fferm Glandulas Uchaf, rhwng Llangybi a phentref bychain Olmarch i'r gogledd. Mae wedyn yn llifo i'r de-orllewin trwy Betws Bledrws, heibio i Gastell Olwen a Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan cyn ymuno ag Afon Teifi i'r de o ganol tref Llanbedr Pont Steffan.