Afon Cefni (llong)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | llong hwylio |
---|---|
Cysylltir gyda | Afon Cefni (llong) |
Rhanbarth | dyfroedd rhyngwladol |
Roedd yr Afon Cefni yn llong hwylio haearn pedwar hwylbren oedd yn chwaer-long i'r Afon Alaw. Cafodd ei henwi ar ôl Afon Cefni, un o afonydd Ynys Môn.
Fel yn achos yr Afon Alaw, cafodd yr Afon Cefni ei hadeiladu yn Glasgow yn yr Alban gan gwmni A. Stephens & Sons ar gyfer Hughes & Co o Borthaethwy, Môn, flwyddyn o flaen yr Afon Alaw, yn 1890.
Ni chafodd y llong yrfa hir. Yn 1894 roedd hi ar ei ffordd i San Francisco, yn yr Unol Daleithiau, o borthladd Abertawe pan aeth ar goll gyda'r criw oll. Yn ddiweddarach cafodd darnau ohoni eu golchi i fyny yn Ynysoedd Syllan (Ynysoedd Scilly) oddi ar arfordir Cernyw.