Aeronwy Thomas
Aeronwy Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1943 Llundain |
Bu farw | 27 Gorffennaf 2009 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd, llenor |
Tad | Dylan Thomas |
Mam | Caitlin MacNamara |
Ail blentyn ac unig ferch Dylan Thomas a'i wraig Caitlin MacNamara oedd Aeronwy Bryn Thomas-Ellis (3 Mawrth 1943 – 27 Gorffennaf 2009). Sefydlwyd y mudiad celf a llenyddiaeth rhyngwladol IMMAGINE&POESIA dan ei nawdd yn 2007.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Thomas yn Llundain, lle trigai ei rhieni. Fe'i henwyd ar ôl Afon Aeron. Ym 1949, symudodd y teulu i'r Boathouse, Talacharn, Sir Gaerfyrddin. Hi oedd y plentyn canol allan o dri. Roedd ganddi ddau frawd Llewellyn a Colm.
Pan yn 10 oed, cofrestrodd ei mam Aeronwy Thomas yn Ysgol Addysgiadol y Celfyddydau yn Tring, Swydd Hertford. Yn dilyn marwolaeth ei thad ym 1953, symudodd hi a'i mam i Sisili, ac yn ddiweddarach i Rhufain ar ôl i'w mam ail-briodi ym 1957. Derbyniodd Thomas radd anrhydedd BA yn Saesneg a Chrefydd Cymharol o Goleg Isleworth, a diploma TEFL o Goleg Addysg i Oedolion Woking. Yn 2003 derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus wrth Brifysgol Abertawe.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar ôl iddi ddysgu Eidaleg, bu'n gweithio fel cyfieithydd barddoniaeth Eidalaidd. Roedd hi hefyd yn lysgennad dros waith ei thad, ac yn noddwr o Gymdeithas Dylan Thomas. Roedd hefyd yn Lywydd i'r Gynghrair i Gymdeithasau Llenyddol.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd ganddi hi a'i gŵr Trefor Ellis ddau o blant: mab, Huw, a merch, Hannah. Mae Hannah Ellis yn cynllun y dathliad canmlwyddiant Dylan Thomas.[1]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Aeronwy Thomas yn 66 oed o gancr ar y 27 Gorffennaf, 2009 yn Llundain. Bwriedir cynnal ei hangladd yn ne-orllewin Llundain ar y 6 Awst, 2009 a bydd ei lludw'n cael ei wasgaru yn y Boathouse yn Nhalacharn.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Later than Laugharne (Celtion, 1976)
- Christmas and Other Memories (Amwy Press)
- Poems and Memories (Pedrini, Turin)
- Christmas in the Boathouse (2003)
- Rooks and Poems (Poetry Monthly Press, 2004)
- I Colori Delle Parole (Rotaract, 2007) (gyda Gianpiero Actis)
- My Father's Places (Constable, 2009)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wales Online 14 Ionawr 2012 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-19. Cyrchwyd 2012-01-22.
- ↑ Funeral of Dylan Thomas's daughter Aeronwy Ellis South Wales Evening Post. 04-08-2009. Adalwyd ar 04-08-2009