Neidio i'r cynnwys

Addysg bellach

Oddi ar Wicipedia

Term a ddefnyddir wrth gyfeirio at addysg yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon ydy addysg bellach. Addysg ôl-16 ydyw lle nad yw'n orfodol ar gyfer y myfyrwyr, sydd yn wahanol i'r addysg a ddarperir mewn prifysgolion (addysg uwch). Gall fod ar unrhyw lefel, o hyfforddiant elfennol i Uwch Ddiploma Cenedlaethol neu Radd Sylfaen. Bydd myfyrwyr wedi sefyll eu harholiadau TGAU sy'n orfodol i bob disgybl ysgol cyn gadael addysg gorfodol y wladwriaeth.

Gan amlaf, gwneir gwahaniaeth rhwng addysg bellach ac addysg uwch, sef addysg ar lefel uwch na'r hyn a geir mewn ysgol uwchradd, ac fe'i ddarperir fel arfer gan sefydliadau penodol fel prifysgolion. O ganlyniad, mae addysg bellach yn y Deyrnas Unedig yn cynnwys addysg ar gyfer pobl dros 16 oed, gan hepgor prifysgolion fel arfer. Caiff ei ddysgu mewn colegau addysg bellach yn bennaf, ond weithiau mae'n cynnwys dysgu yn y gweithle a sefydliadau dysgu cymunedol ac addysg i oedolion. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ôl-16 sy'n debyg i'r rhai a ddysgir mewn ysgolion a chyrsiau is-radd sy'n debyg i'r rhai a ddysgir mewn colegau addysg uwch (sy'n dysgu cyrsiau lefel gradd) ac mewn rhai prifysgolion.

Darperir addysg yng Nghymru drwy:

Daw addysg bellach yng Nghymru o dan reolaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac arferai gael ei ariannu gan ELWa cyn iddo uno a'r Cynulliad. Mae colegau addysg bellach Cymru yn gweithredu hefyd drwy gorff elusennol, ColegauCymru.

Cymwysterau
[golygu | golygu cod]
Colegau addysg bellach yng Nghymru
[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir nifer o golegau addysg bellach Cymru gan y corff ColegauCymru. Bu llawer o uno rhanbarthol rhwng colegau yn ystod yr 2010 a gall enwau colegau a'u strwythur newid o bryd i'w gilydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato