Actio method
Gwedd
Mae actio method (weithiau actio dull) yn dechneg actio lle mae'r actor yn ceisio ail-greu amgylchiadau emosiynol bywyd go iawn er mwyn ceisio sicrhau perfformiad credadwy a realistig. Gellir cyferbynnu hyn gyda'r dechneg o'r actor yn gosod ei hun mewn sefyllfa "dychmygol" cryf, sydd yn ei dro yn achosi ymateb emosiynol sy'n cyfateb i faint mae'r actor wedi trwyddo'i hun yn feddyliol yn yr olygfa.
Gan amlaf mae "Y method" neu mewn actio method yn cyfeirio at arfer actorion o dynnu ar eu hemosiynau, atgofion a phrofiadau er mwyn dylanwadu ar eu portreadau o gymeriadau.