Aciclovir
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | nucleoside analogue |
Màs | 225.086 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₈h₁₁n₅o₃ |
Clefydau i'w trin | Herpes gwenerol, brech ieir, yr eryr, herpes syml, haint firol epstein–barr, varicella zoster infection, enseffalitis, herpes simplex virus meningoencephalitis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | nucleoside analogue |
Màs | 225.086 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₈h₁₁n₅o₃ |
Clefydau i'w trin | Herpes gwenerol, brech ieir, yr eryr, herpes syml, haint firol epstein–barr, varicella zoster infection, enseffalitis, herpes simplex virus meningoencephalitis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae aciclovir yn gyffur gwrthfiraol sy’n cael ei ddefnyddio i drin heintiau herpes.[1][2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd aciclovir ei greu yng nghanol y 1970au gan gael ei weld fel dechrau cyfnod newydd mewn therapi gwrthfiraol. Cafodd ei hynysu o sbwng Caribïaidd, Cryptotethya crypta[3]. Derbyniodd un o’i ddyfeiswyr Gertrude B. Elion y Wobr Nobel am Feddygaeth ym 1988, yn rhannol am ei gwaith ar ddatblygu’r moddion[4]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae’r gwahanol fathau o firysau herpes yn gyfrifol am nifer o afiechydon. Mae herpes simplex yn achosi’r dolur annwyd a herpes gwenerol, a symptomau tebyg yn y llygaid (herpes keratitis), y dwylo (ffelwm herpes) ac yn yr ymennydd (herpes enceffalitis), a’r anws. Mae’r firws farisela herpes zoster yn achosi brech yr ieir a’r eryr. Mae tua 130 o wahanol fathau o firws herpes gyda 9 ohonynt yn effeithio ar fodau dynol.
Gellir defnyddio aciclovir i drin y rhan fwyaf o heintiau herpes. Mae ar gael ar ffurf tabledi, hufen, eli llygaid ac ar gyfer chwistrell. Mae’r hufen a’r eli yn cael eu defnyddio yn gyffredin i drin doluriau annwyd. Gall cyflymu’r broses o iachau’r dolur cyn belled â’i fod yn cael ei ddefnyddio cyn gynted a bod symptomau yn ymddangos[1]. Mae eli ar gael i drin herpes yn y llygaid a’r ffelwm. Mae’r tabledi a’r chwistrellau yn cael eu defnyddio i ymdrin â mathau mwy difrifol o herpes megis brech yr ieir, yr eryr a herpes gwenerol. Gall tabledi hefyd cael eu defnyddio i atal datblygiad heintiau herpes mewn pobl sydd ag imiwnedd isel[5].
Brandio
[golygu | golygu cod]Mae aciclovir ar gael fel meddyginiaeth generig. Mae hefyd yn cael ei ddosbarthu yng ngwledydd Prydain o dan yr enwau Action Cold Sore Cream, Boots Avert, Cymex, Ultra, Lypsol Aciclovir 5%, Soothelip, Virasorb, a Zovirax. Mae’r cyffur ar gael ar ffurf eli a hufen dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd yng ngwledydd Prydain. Mae angen presgripsiwn ar gyfer tabledi a chwistrell[1].
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Prin yw’r sgil effeithiau sy’n gysylltiedig ag aciclovir ond mae rhai cleifion wedi adrodd eu bod yn [6]
- Teimlo’n gyfoglyd, yn cyfogi neu’n cael poen bol ar ôl ei ddefnyddio
- Yn cosi ar ôl ei ddefnyddio
- Yn cael cur pen
- Yn ddioddef o’r dolur rhydd
- Yn teimlo’n gysglyd neu’n benysgafn
Beichiogrwydd
[golygu | golygu cod]Does dim risg wedi ei nodi o ddefnyddio eli na hylif. Prin yw’r risg o ddefnyddio’r moddion fel tabled neu chwistrelliad, ond dylai merched sy’n bwriadu dechrau teulu neu’n canfod eu bod yn feichiog wrth ddefnyddio’r feddyginiaeth trafod eu triniaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.
Gyrru
[golygu | golygu cod]Ac eithrio bod y cyffur yn gwneud y claf yn gysglyd neu’n benysgafn, does dim rheswm dros beidio gyrru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
- ↑ de Clercq, Erik; Field, Hugh J (5 Hydref 2005). "Antiviral prodrugs – the development of successful prodrug strategies for antiviral chemotherapy". British Journal of Pharmacology. 147 (1). Wiley-Blackwell (cyhoeddwyd Ionawr 2006). tt. 1–11. doi:10.1038/sj.bjp.0706446. PMC 1615839. PMID 16284630.
- ↑ Garrison, Tom (1999). Oceanography: An Invitation to Marine Science, 3rd ed. Belmont, CA: Wadsworth Publishing Company. t. 471.
- ↑ Elion, Gertrude; Furman PA; Fyfe, James A.; De Miranda, Paulo; Beauchamp, Lilia; Schaeffer, Howard J. (1977). "Selectivity of action of an antiherpetic agent, 9-(2-hydroxyethoxymethyl)guanine". Proc Natl Acad Sci USA 74 (12): 5716–5720. Bibcode 1977PNAS...74.5716E. doi:10.1073/pnas.74.12.5716. PMC 431864. PMID 202961. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=431864.
- ↑ "EMC PATIENT INFORMATION LEAFLET Aciclovir 200mg, 400mg and 800mg tablets". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-15. Cyrchwyd 2017-08-06.
- ↑ Aciclovir for viral infections (Zovirax)
Rhybudd Cyngor Meddygol
[golygu | golygu cod]
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |