9 Tan 9
9 tan 9 | |
---|---|
Genre | Drama comedi |
Ysgrifennwyd gan | Eilir Jones |
Cyfarwyddwyd gan | Cleif Harpwood |
Serennu | Eilir Jones Maldwyn John |
Cyfansoddwr/wyr | Arwyn Davies |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Norman Williams |
Amser rhedeg | c.24 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Tonfedd Eryri |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Rhediad cyntaf yn | 2002 |
Rhaglen deledu comedi sefyllfa Cymraeg oedd 9 Tan 9. Roedd yn dilyn helyntion staff un o siopau'r gadwyn dychmygol Gwalia Stores, rhywle yn Sir Ddinbych, a oedd dan fygythiad parhaus oherwydd cystadleuaeth gan archfarchnad mawr o'r enw Blerways. Cafodd y gyfres cyntaf ei gynhyrchu yn 2002 gyda phob pennod tua 24 munud o hyd ac yn cymryd slot hanner awr yn amserlen S4C gyda'r hysbysebion. Roedd awdur y gyfres, y digrifwr Eilir Jones, hefyd yn chwarae rhan y cymeriad Mr Brook Stanley.
Cast a Chymeriadau
[golygu | golygu cod]Llewelyn Williams (Llew) - Maldwyn John
Beryl - Gwenno Elis Hodgkins
Mr Rogers (rheolwr Gwalia Stores) - Arwyn Davies
Mr Brook Stanley - Eilir Jones
Keith - Iwan Evans
Iona - Elen Gwyne
Ceri - Catrin Mara
Roedd papurau newydd Sir Ddinbych, y Denbighshire Free Press a'r Vale Advertiser i'w weld ar werth yn Gwalia Stores ac yn cael eu ddefnyddio weithiau fel propiau.
Penodau
[golygu | golygu cod]Cyfres 1
[golygu | golygu cod]# | Teitl | Cyfarwyddwr | Darllediad cyntaf | Gwylwyr [1] |
---|---|---|---|---|
1 | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | x |
Daeth Mr Rogers ar ymweliad i'r siop i gyflwyno ei hun fel rheolwr newydd Gwalia Stores. | ||||
2 | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | x |
Mae Mr Rogers yn asesu i ddarganfod a yw un o staff y siop yn gymwys i gymryd cyfrifoldeb swydd rheolwr y siop. Chwaraeodd John Pierce Jones rhan ffarmwr yn y bennod. | ||||
3 | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | x |
Mae staff Gwalia Stores yn gorfod galw plismon Cadfan Roberts i ymchwilio i ladrata yn y siop. Gyda Michael Jones yn chwarae rhan Guto. | ||||
4 | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | x |
Mae Iona yn edrych am gariad. | ||||
5 | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | x |
Mae'r siop yn cynnal noson singles i helpu bobol dod o hyd i gariadon. Gydag Iwan Roberts yn chwarae rhan Paul Humphreys a Gareth Owen yn ymddangos fel Dafydd Blodau. | ||||
6 | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | I'w gyhoeddi | x |
Mae pethau'n mynd o'r chwith pan mae criw o blant yn dod i'r siop ar ymweliad o'r ysgol. Mae Janet Aethwy yn chwarae rhan yr athrawes, Ms Griffiths, a Bethan Gwilym yn ymddangos fel cwsmer. |