167 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
210au CC 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC - 160au CC - 150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC
172 CC 171 CC 170 CC 169 CC 168 CC - 167 CC - 166 CC 165 CC 164 CC 163 CC 162 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Yr offeiriad Iddewig Mattathias o Modi'in yn gwrthryfela yn erbyn deddfau Antiochus IV, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd sy'n mynnu fod yr Iddewon yn aberthu i Zeus. Mae'n lladd swyddog Syriaidd ac yn ffoi i fryniau Judea gyda'i bum mab.
- Y cadfridog Rhufeinig Lucius Aemilius Paulus yn dychwelyd i Rufain gyda Perseus, brenin Macedon yn garcharor. Ar y ffordd, ar orchymyn Senedd Rhufain, mae'n dial ar Epirus oedd mewn cynghrair a Perseus. Dinistrir 70 dinas a gwerthir 100,000 o ddinasyddion fel caethion.
- Y Parthiaid yn cipio dinas Herat. Mae hyn bron yn rhoi diwedd ar drafnidiaeth ar hyd Ffordd y Sidan.