Àird nam Murchan
Gwedd
Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Lochaber |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 400 km² |
Gerllaw | Sea of the Hebrides, Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 56.73°N 5.98°W |
Mae Àird nam Murchan (Saesneg: "Ardnamurchan") yn benrhyn yn Lochaber, Cyngor yr Ucheldir, yr Alban. Mae Goleudy Àird nam Murchan ar ben gorllewinol y penrhyn. Poblogaeth y penrhyn yw tua 2000 o bobl. Yn hanesyddol yn rhan o Swydd Argyll, erbyn hyn mae’n rhan o ardal Lochaber, rhan o awdurdod leol yr Ucheldir. Mae pentrefi’r penrhyn yn cynnwys:
- Achadh na h-Àtha (Achnaha)
- An t-Sàilean (Salen)
- Àth Tharracail ( Acharacle)
- Cille Chòmhghain (Kilchoan)
- Cill Mhóire (Kilmory)
- Gleann Bhorghdail (Glenborrodale)
- Làga (Laga)
- Ocal (Ockle)
- Port Uairce (Portuairk)
- Sanna, (Sanna)
Mae’r penrhyn y lle mwyaf orllewinol ar ynys Prydain.[1]