Ynysoedd Cook
Math | gwladwriaeth gysylltiedig, ynys-genedl, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Avarua |
Poblogaeth | 17,434 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Te Atua Mou E |
Pennaeth llywodraeth | Henry Puna |
Cylchfa amser | UTC−10:00, Pacific/Rarotonga |
Gefeilldref/i | Auckland |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Cook Islands Maori |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Seland Newydd |
Gwlad | Ynysoedd Cook |
Arwynebedd | 240 km² |
Cyfesurynnau | 21.23°S 159.78°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Parliament of the Cook Islands |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Seland Newydd |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Ynysoedd Cook |
Pennaeth y Llywodraeth | Henry Puna |
Arian | New Zealand dollar, Cook Islands dollar |
Grŵp o bymtheg ynys yn Polynesia yn ne'r Cefnfor Tawel, sy'n gorwedd rhwng Polynesia Ffrengig a Ffiji yw Ynysoedd Cook.
Arwynebedd tir yr ynysoedd yw 240 km² yn unig, ond mae eu hardal economiadd forol yn cynnwys dros 2 filiwn km². Cyfanswm poblogaeth yr ynysoedd yw 21,388. Mae'r brifddinas Avarua ar y brif ynys, Rarotonga. Gorweddant rhwng 9 ac 20 gradd o hydred y de.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Rhennir yr ynysoedd, a'r wlad, yn fras yn ddau grŵp, Grŵp y De a Grŵp y Gogledd.
Mae ynysoedd Grŵp y De, sy'n cynnwys Rarotonga, Aitutaki, Atiu, Mangaia, Manuae, Mauke, Mitiaro, Ynys Palmerston a Takutea, o ffurfiad fwlcanaidd uchel (hyd at 632m yn achos Rarotonga) gyda phridd ffrwythlon a thyfiant trofaol cyfoethog. Yr eithriadau yw atolau bach Manuae a Palmerston, ac mae Takutea yn forfa (key) dywodlyd. Rhyngddynt mae ynysoedd Grŵp y De yn cynrychioli tua 90 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Ynysoedd Cook. Rarotonga yw'r ynys fwyaf (6,719 hectar) a Takutea yw'r lleiaf (122 hectares).
Yng Ngrŵp y Gogledd ceir Manihiki, Nassau, Tongareva (Ynys Penrhyn), Pukapuka, Rakahanga a Suwarrow. Ac eithrio Nassau, sy'n forfa dywodlyd, mae'r ynysoedd hyn i gyd yn atolau coral isel a chanddynt dyfiant prin (coed cnau cocos a pandanus, er enghraifft) a lagŵns mawr. Ynys Penrhyn yw'r ynys fywaf (984 hectar) a Suwarrow yw'r lleiaf (40 hectar).
Mae yna bellteroedd sylweddol rhwng yr ynysoedd. Yr ynys allanol agosaf i'r brif ynys Rarotonga yw Mangaia (204 km) a'r bellaf i ffwrdd yw Penrhyn (1,365 km). Y ddwy ynys sydd bellach i ffwrdd o'i gilydd yw Pukapuka, yn Ngrŵp y Gogledd, a Mangaia yng Ngrŵp y De, sy'n 1,470 km oddi wrth ei gilydd.
Mae Rarotonga tua 3,010 km i'r gogledd-ddwyrain o Auckland yn Seland Newydd, 1,140 km i'r de-orllewin o Tahiti, 2,300 km i'r dwyrain o Ffiji a 4,730 km i'r de o Hawaii.
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae gan yr ynysoedd hinsawdd gefnforol drofannol ac iddi ddau dymor. Yn ystod y tymor sych, o Ebrill i Dachwedd, ceir tymheredd o tua 26 gradd sentigradd ar ei uchaf a tua 20 gradd ar ei isaf. Mae'r tymor gwlypach, mwy glos, yn ymestyn rhwng Rhagfyr a mis Mawrth, gyda thymheredd o tua 28 gradd sentigradd ar ei uchaf a tua 22 gradd ar ei isaf. Yn ystod y tymor hwnnw mae Ynysoedd Cook yn tueddu i gael ystormydd trofannol cryf a chorwyntoedd yn ogystal ar adegau.
Hanes
[golygu | golygu cod]- Geoffrey Henry, Prif Weinidog ym 1983 a 1989–99
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae trigolion brodorol Ynysoedd Cook yn Maori (Maori Ynysoedd Cook), grŵp ethnig Polynesiaidd sy'n perthyn yn agos i frodorion ynysoedd Tahiti a phobl Maori Seland Newydd. Sieredir Maori Ynysoedd Cook a Saesneg ar yr ynysoedd.
Mae'r ymadrodd Kia Orana ("Hir Oes i chi!") bron iawn yn arwyddair genedlaethol.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan llywodraeth yr ynysoedd Archifwyd 2009-03-21 yn y Peiriant Wayback
- Twristiaeth
- Diwylliant yr ynysoedd Archifwyd 2006-11-07 yn y Peiriant Wayback