Alan Llwyd
Alan Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 1948 Dolgellau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, sgriptiwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Y Flodeugerdd Englynion Newydd, Anghenion y gynghanedd |
- Peidiwch â chymysgu'r llenor hwn â'r awdur Alun Llwyd.
Bardd, awdur a sgriptiwr ffilmiau yw Alan Llwyd (ganwyd Alan Lloyd Roberts, 1948).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd yn Dolgellau, Gwynedd[1] lle bu'n byw nes oedd yn bump oed; symudodd i fferm yn Nghilan, Pen Llŷn.[2] Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac wedi graddio yno yn y Gymraeg, bu'n rheoli siop lyfrau yn y Bala cyn symud i ardal Abertawe er mwyn gweithio i gwmni cyhoeddi Christopher Davies. Ar ôl cyfnod yn gweithio i CBAC treuliodd weddill ei yrfa fel golygydd amser-llawn gyda Barddas, cylchgrawn y bu'n gyfrifol am ei sefydlu gyda Gerallt Lloyd Owen.
Enillodd y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, dim ond yr ail fardd i wneud hynny yn hanes yr Eisteddfod.
Enillodd y Gadair am y trydydd tro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 ac ef oedd y bardd cyntaf i wneud hynny ers llacio'r rheol 'ennill dwywaith yn unig'.[3]
Mae'n awdur toreithiog, gyda sawl cyfrol o farddoniaeth a beirniadaeth wedi eu cyhoeddi yn cynnwys cofiannau Hedd Wyn a Goronwy Owen. Ysgrifennodd y sgript am y ffilm Hedd Wyn (1992). Yn ddiweddar fe olygodd Cymru Ddu, hanes pobl du Cymreig.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]-
Ffarwelio â Chanrif
-
Y Grefft o Greu
-
Blynyddoedd y Locustiaid
- Y March Hud (Abersoch: Gwast Tŷ ar y Graig, 1971) – dan yr enw Alan Lloyd Roberts
- Anghenion y Gynghanedd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973; argraffiad newydd 2007)
- Gwyfyn y Gaeaf (Abertawe: C. Davies, 1975)
- Edrych trwy Wydrau Lledrith (Abertawe: C. Davies, 1975)
- Rhwng Pen Llŷn a Phenllyn (Abertawe: C. Davies, 1976)
- (gol.) Y Flodeugerdd Englynion (Abertawe: C. Davies, 1978)
- (gol.) Y Flodeugerdd Sonedau (Abertawe: C. Davies, 1978)
- Cerddi'r Cyfannu a Cherddi Eraill (Abertawe: Gwasg Christopher Davies, 1980)
- Yn Nydd yr Anghenfil (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
- Marwnad o Dirdeunaw (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
- Einioes ar ei Hanner (Cyhoeddiadau Barddas, 1984)
- Llên y Llenor: R. Williams Parry (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1984)
- Llên y Llenor: Gwyn Thomas (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1984)
- (gol.) Y Flodeugerdd o Epigramau Cynghanedd (Cyhoeddiadau Barddas, 1985)
- Oblegid fy Mhlant (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
- Barddoniaeth y Chwedegau: Astudiaeth Lenyddol-Hanesyddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1986)
- (gol., gyda Gwynn ap Gwilym) Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (Gwasg Gomer, 1987)
- Yn y Dirfawr Wag (Cyhoeddiadau Barddas, 1988)
- (gol.) Y Flodeugerdd o Ddyfyniadau Cymraeg (Gwasg Gomer, 1988)
- (gol., gydag Elwyn Edwards) Gwaedd y Bechgyn: Blodeugerdd Barddas o Gerddi'r Rhyfel Mawr 1914-1918 (Cyhoeddiadau Barddas, 1989)
- Cerddi Alan Llwyd, 1968–1990: Y Casgliad Cyflawn Cyntaf (Cyhoeddiadau Barddas, 1990)
- Gwae fi fy myw: Cofiant Hedd Wyn (Cyhoeddiadau Barddas, 1991)
- Yn Nheyrnas Diniweidrwydd: Blodeugerdd Barddas o Gerddi am Blant a Phlentyndod (Gwasg Gomer, 1992)
- (gol., gydag Elwyn Edwards) Y Bardd a Gollwyd: Cofiant David Ellis (Cyhoeddiadau Barddas, 1992)
- Glaw ar Rosyn Awst (Gwasg Gwynedd, 1994)
- (gol., gyda Elwyn Edwards) Gwaedd y Lleiddiad: Blodeugerdd Barddas o Gerddi'r Ail Ryfel Byd, 1939-1945 (Cyhoeddiadau Barddas, 1995)
- Sonedau i Janice a Cherddi Eraill (Cyhoeddiadau Barddas, 1996)
- Canrif o Brifwyl: Y Ddarlith Lenyddol Flynyddol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Dinefwr 1996 (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1996)
- Y Grefft o Greu: Ysgrifau ar Feirdd a Barddoniaeth (Cyhoeddiadau Barddas, 1997)
- Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu: Cofiant Goronwy Owen 1723-1769 (Cyhoeddiadau Barddas, 1997)
- Ffarwelio â Chanrif (Cyhoeddiadau Barddas, 2000)
- Rhyfel a Gwrthryfel: Brwydr Moderniaeth a Beirdd Modern (Cyhoeddiadau Barddas, 2003)
- Clirio'r Atig a Cherddi Eraill (Cyhoeddiadau Barddas, 2005)
- Cymru Ddu: Hanes Pobl Dduon Cymru (Caerdydd: Hughes a'i Fab, 2005)
- Y Gaer Fechan Olaf: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1937-1950 (Cyhoeddiadau Barddas, 2006)
- Blynyddoedd y Locustiaid: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Prifysgol y Werin: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1918 (Cyhoeddiadau Barddas, 2008)
- (gol.) Out of the Fire of Hell: Welsh Experience of the Great War 1914-18 in Poetry and Prose (Gwasg Gomer, 2008)
- (gol.) Y Flodeugerdd Englynion Newydd (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
- Darnau o Fywydau (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
- Stori Hedd Wyn: Bardd y Gadair Ddu (Cyhoeddiadau Barddas, 2009), dwyieithog
- Crefft y Gynghanedd (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
- Stori Waldo Williams: Bardd Heddwch (Cyhoeddiadau Barddas, 2010), dwyieithog
- Sut i Greu Englyn (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
- Kate: Cofiant Kate Roberts, 1891-1985 (Y Lolfa, 2011)
- Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956 (Gwasg Gomer, 2013)
- Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904-1971 (Y Lolfa, 2014)
- Cofiant Hedd Wyn, 1887-1917 (Y Lolfa, 2014)
- Cerddi Alan Llwyd: Yr Ail Gasgliad Cyflawn 1990-2015 (Cyhoeddiadau Barddas, 2015)
- Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones, 1899-1968 (Y Lolfa, 2016)
- Dim ond Llais (Cyhoeddiadau Barddas, 2018)
- Cyrraedd: a Cerddi Eraill (Cyhoeddiadau Barddas, 2018)
- Colli'r Hogiau: Cymru a'r Rhyfel Mawr (Gwasg Gomer, 2018)
- Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949 (Cyhoeddiadau Barddas, 2019)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pwy 'di Pwy: Alan Llwyd". BBC.
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2014-05-23 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 18 Mai 2014.
- ↑ Alan Llwyd yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol , BBC Cymru Fyw, 11 Awst 2023.