Neidio i'r cynnwys

Adam Price

Oddi ar Wicipedia
Adam Price
AS
Adam Price yn 2021
Arweinydd Plaid Cymru
Yn ei swydd
28 Medi 2018 – 16 Mai 2023
ArlywyddDafydd Wigley
DirprwyRhun ap Iorwerth
Sian Gwenllian
Rhagflaenwyd ganLeanne Wood
Dilynwyd ganRhun ap Iorwerth
Llyr Huws Gruffydd (dros dro)
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganRhodri Glyn Thomas
Aelod Seneddol
dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Yn ei swydd
7 Mehefin 2001 – 12 Ebrill 2010
Rhagflaenwyd ganAlan Wynne Williams
Dilynwyd ganJonathan Edwards
Manylion personol
Ganwyd (1968-09-23) 23 Medi 1968 (56 oed)
Caerfyrddin
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Alma materPrifysgol Caerdydd
Prifysgol Harvard
GwefanGwefan wleidyddol

Gwleidydd o Gymru yw Adam Price (ganwyd 23 Medi 1968) ac Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2016. Roedd yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 2018 a 2023.[1] Mae'n gyn-aelod seneddol Plaid Cymru yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan. Enillodd y sedd oddi wrth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2001. Fe'i etholwyd yn arweinydd Plaid Cymru yn Medi 2018 ac ef yw'r person hoyw agored cyntaf i arwain plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Adam Robert Price yng Nghaerfyrddin yn fab i Rufus, cyn-lowr a phaffiwr, ac Angela. Fe'i magwyd yn y Tymbl yna Tŷ-croes ger Rhydaman. Er fod ei rieni yn siarad Cymraeg, iaith yr aelwyd oedd Saesneg am eu bod yn meddwl fod hyn yn fwy manteisiol mewn bywyd. Penderfynodd ei frawd hyn Adrian ddysgu Cymraeg ei hunan a pasiodd ei angerdd at yr iaith i'w frawd. Dysgodd Adam Gymraeg yn eithaf rhugl o fewn 12 mis.

Yn blentyn roedd yn gristion efengylol ac roedd ganddo dalent am siarad cyhoeddus. Roedd ei ddaliadau crefyddol yn gwrthdaro gyda'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac yn ddiweddarach ei rywioldeb. Penderfynodd yn y diwedd i ddilyn y trywydd gwleidyddol. Aeth drwy gyfnod o anffyddiaeth ond daeth i gyfaddawd gyda'i ffydd lle mae'n galw ei hun yn Gristion ond yn dal i chwilio am atebion.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac aeth ymlaen i Brifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda BSc mewn Economeg.[2]

Safodd yn Etholiad Cyffredinol 1992 yn etholaeth Gŵyr ond yn anllwyddiannus. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2001.

Ar 25 Awst 2004, cyhoeddodd Price ei fod am ddechrau proses o uchelgyhuddiad (impeachment) yn erbyn Tony Blair, gyda chefnogaeth aelodau seneddol Plaid Cymru a'r SNP. Doedd uchelgyhuddiad ddim wedi cael ei ddefnyddio yn y DU am 150 o flynyddoedd. Pe buasai'n llwyddiannus buasai'n rhaid i Blair sefyll achos yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond methiant oedd y mesur.

Ar 5 Mai 2005 cafodd ei ailethol yn AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gyda chynnydd yn ei fwyafrif (17.5%).

Ar 31 Hydref 2006, agorodd ddadl tair awr ar y ymchwiliad i'r Rhyfel yn Irac, y ddadl gyntaf ar y pwnc mewn dros ddwy flynedd. Cynigiodd yr SNP a Phlaid Cymru sefydlu pwyllgor o saith AS blaenllaw i adolygu "y ffordd y cafodd dyletswyddau'r llywodraeth eu cyflawni ynglŷn â'r rhyfel yn Irac". Collwyd y cynnigiad o 298 pleidlais i 273, mwyafrif tenau o 25 i'r llywodraeth, ond enillodd gefnogaeth sawl AS gan gynnwys Glenda Jackson ac ASau Llafur 'rebel' eraill.

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

[golygu | golygu cod]

Yng Ngorffennaf 2018 sefodd fel ymgeisydd i fod yn arweinydd newydd Plaid Cymru, gan gystadlu yn erbyn Rhun ap Iorwerth a'r deiliad Leanne Wood.

Fe'i etholwyd yn arweinydd y blaid ar 28 Medi 2018.[3] Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gydag ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.[4]

Ymddiswyddodd fel arweinydd ar 10 Mai 2023, yn dilyn adroddiad beirniadol a ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru. Roedd eisiau ymddiswyddo ynghynt ond cafodd ei berswadio i aros.[5] Enwebwyd Llyr Huws Gruffydd yn unfrydol gan Grŵp Senedd Plaid Cymru fel Arweinydd dros dro.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Penodi Llyr Gruffydd yn Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru". Golwg360. 2023-05-11. Cyrchwyd 2023-05-11.
  2. Rhun, Adam, Leanne - who are they really? The stories behind the contenders to lead Plaid Cymru , WalesOnline, 19 Awst 2018. Cyrchwyd ar 14 Chwefror 2019.
  3. Adam Price ydi arweinydd newydd Plaid Cymru , Golwg360, 29 Medi 2018.
  4. Ethol Adam Price fel arweinydd newydd Plaid Cymru , BBC Cymru Fyw, 28 Medi 2018.
  5. "Adam Price i ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru". BBC Cymru Fyw. 2023-05-10. Cyrchwyd 2023-05-11.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Rhodri Glyn Thomas
Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
2016 – presennol
Olynydd:
deiliad
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alan Wynne Williams
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
20012010
Olynydd:
Jonathan Edwards
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Leanne Wood
Arweinydd Plaid Cymru
20182013
Olynydd:
Rhun ap Iorwerth