Zuberoa
Gwedd
Math | talaith |
---|---|
Poblogaeth | 15,350 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gwlad y Basg |
Sir | Pyrénées-Atlantiques |
Gwlad | Gwlad y Basg |
Arwynebedd | 772 km² |
Cyfesurynnau | 43.23°N 0.88°W |
Un o'r tair talaith draddodiadol sy'n ffurfio Iparralde, y rhan o Wlad y Basg sydd yn Ffrainc, yw Zuberoa (Basgeg: Zuberoa, neu Xiberua yn y dafodiaith leol, Ffrangeg: Soule). Saif yn département Pyrénées-Atlantiques. Hi yw'r leiaf o saith talaith Gwlad y Basg; roedd y boblogaeth yn 15,481 yn 1999. Y brifddinas yw Maule-Lextarre.
Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol, er bod 64% o'r boblogaeth yn siarad y dafodiaith leol o Fasgeg, ond ceir rhywfaint o arwyddion dwyieithog. Mae 71% o'r boblogaeth yn eu hystyried ei hunain yn Fasgiaid, yn ganran uchaf yn rhan Ffrengig Gwlad y Basg.