Simon Brooks
Simon Brooks | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1971 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd, academydd |
Academydd yw Dr Simon Brooks (ganwyd 11 Ebrill 1971).
Rhwng 1996 a 2007, bu'n olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Barn, bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Tu Chwith rhwng 1993 a 1996. Yn 2009, cyhoeddwyd casgliad o'i ohebyddiaeth yn Barn. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymuned; bu'n gyfrifol am weinyddu'r swyddfa ganolog a bu'n aml yn siarad â'r cyfryngau am y mudiad rhwng 2001 and 2004.
Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dr Simon Brooks yn un o gant a wrthododd dalu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[1]
Mae'n byw ym Mhorthmadog ac yn gynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog.[2]
Roedd Simon Brooks yn un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2011.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Academaidd
- O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru - Gwasg Prifysgol Cymru 2004
- Pa beth yr aethoch allan i'w achub? Ysgrifau i gynorthwyo'r gwrthsafiad yn erbyn dadfeiliad y Gymru Gymraeg (cyd-olygydd gyda Richard Glyn Roberts) - Gwasg Carreg Gwalch 2013
- Pam Na Fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg - Gwasg Prifysgol Cymru 2015
- Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg[3] - Gwasg Prifysgol Cymru 2021
Gohebyddiaeth
- Llythyrau at Seimon Glyn (gol.) - Y Lolfa 2001
- Yr Hawl i Oroesi - Gwasg Carreg Gwalch 2009
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tudalen Newyddion ar Wefan Golwg360[dolen farw]
- ↑ Is-bwyllgorau. Cyngor Tref Porthmadog. Adalwyd ar 17 Mai 2018.
- ↑ https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/hanes-cymry/